6 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 3, 2021/22 PDF 323 KB
I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 3 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 3 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2021 a 31 Rhagfyr, 2021 yn cynnwys refeniw a chyfalaf. Tynnodd sylw at y ffaith bod y CRT wedi'i neilltuo ac na ellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn at ddibenion heblaw am ariannu costau sy'n ymwneud â stoc tai'r Cyngor; ni ellir defnyddio balansau'r Gronfa Gyffredinol ychwaith i ariannu'r CRT.
Mae gwarged/diffyg y CRT ar ddiwedd Chwarter 3 yn dangos gorwariant o £639k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwariant cyfalaf £3,384k yn is na'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwariant a ragwelir £12,169k yn is na'r gyllideb. Mae'r gwarged a ragwelir sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf bellach yn £759k, £9,875k yn well na'r gyllideb yn bennaf oherwydd bod y gwariant cyfalaf yn is na'r gyllideb.
Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth| (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 at yr amrywiadau yn y gyllideb a dywedodd fod incwm rhent yr CRT yn is na'r hyn a ragwelwyd o ganlyniad i oedi cyn i stoc newydd fod ar gael; mae gwariant nad yw'n waith trwsio a chynnal a chadw hefyd yn is na'r gyllideb a broffiliwyd tra bod yr uned Cynnal a Chadw Tai wedi'i gorwario'n bennaf o ganlyniad i fwy o waith trwsio a chynnal a chadw wrth fynd i’r afael â’r gwaith na chafodd ei wneud oherwydd cyfyngiadau Covid 19. Rhagwelir tanwariant sylweddol ar yr ochr gyfalaf a gellir ei briodoli i nifer o resymau gan gynnwys llai o gynnydd na'r disgwyl o ran datblygiadau tai y rhagwelwyd a fyddai’n dechrau yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae pandemig Covid hefyd wedi effeithio ar fuddsoddiad arfaethedig yn y stoc bresennol. Mae’r tanwariant ar wariant cyfalaf yn golygu bod gostyngiad tebyg yn y swm a gyllidir o gyfrif refeniw’r CRT Mae'r balans ar gael wedyn i ariannu prosiectau sydd wedi'u gohirio tan y flwyddyn nesaf.
Penderfynwyd nodi'r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 3 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.