Mater - cyfarfodydd

Fees and Charges 2022/23

Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Ffioedd a Thaliadau 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r atodlen Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2022/23 fel yr amlinellir yn y llyfryn a gyflwynwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi rhestr arfaethedig o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod holl ffioedd a thaliadau'r Cyngor yn cael eu hadolygu fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan bod yr holl ffioedd a thaliadau anstatudol yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi caniatáu i Benaethiaid Gwasanaethau gynyddu ffioedd unigol o fwy neu lai na 3%, ond yn gyffredinol, mae'r cynnydd ar draws y gwasanaeth yn cyfateb i gynnydd o 3%. Mae'r holl ffioedd statudol wedi'u cynyddu yn ôl y swm a bennwyd gan y corff cymeradwyo, lle mae'r cynnydd wedi'i gyhoeddi. Os nad yw'r ffi ddiwygiedig yn hysbys, dangosir y caiff y ffi ei chadarnhau (i'w chadarnhau) a chaiff ei diweddaru unwaith y bydd gwybodaeth am y ffi newydd yn cael ei derbyn. Mae cynnydd mewn ffioedd mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol yn destun adroddiadau ar wahân.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith nad yw'r holl ffioedd yn codi yn 2022/23 gyda phrydau ysgol a thaliadau casglu gwastraff gwyrdd yn aros yr un fath.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r atodlen Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2022/23 fel yr amlinellir yn y llyfryn a gyflwynwyd.