17 Polisi Rhyddhad Disgreswin y Dreth Gyngor PDF 863 KB
I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn argymell i’r Cyngor Llawn bod y newidiadau a nodir yn yr adroddiad yn cael eu gwneud i Bolisi Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor fel yr amlygir yn Atodiad A yr adroddiad o’r 1af Ebrill 2022/23.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi diwygiadau arfaethedig i Bolisi Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, er bod nifer o welliannau'n cael eu cynnig i'r polisi, fod y prif newid yn Adran 13A (1) (c) rhyddhad dewisol ar gyfer dosbarthiadau o anheddau lle cynigir diwygio'r polisi i gefnogi prynwyr tro cyntaf sydd â chysylltiad ag Ynys Môn os ydynt yn prynu annedd sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir a bod gwaith atgyweirio neu strwythurol yn cael ei wneud i’r annedd fel y gall pobl fyw ynddi. A. Mae'r newid yn cynnig mewnosod cymal ychwanegol sy'n benodol i brynwyr tro cyntaf sy'n caniatáu i brynwyr tro cyntaf eithrio rhag talu Treth y Cyngor ar yr eiddo am y 12 mis cyntaf o'r dyddiad prynu ac eithriad pellach o'r premiwm eiddo gwag am hyd at 24 mis arall ar yr amod bod y gwaith i adnewyddu'r eiddo a'i ddefnyddio unwaith eto yn parhau, yn symud ymlaen a heb ei gwblhau.
Cefnogodd y Pwyllgor Gwaith y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi a chroesawodd pawb y cymorth ychwanegol i brynwyr tro cyntaf sydd â chysylltiad ag Ynys Môn.
Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn y dylid gwneud y diwygiadau fel y'u nodir i Bolisi Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor fel y nodir yn Atodiad A o 1 Ebrill 2022/23.