Mater - cyfarfodydd

Endorsement of the Island's Project Submission to the Levelling Up Fund

Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 18)

18 Cais Posibl y Cyngor Sir i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU pdf eicon PDF 231 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo parhau gyda’r gwaith paratoi ar gyfer cais i’r Gronfa Codi’r Gwastad (LUF) sy’n canolbwyntio ar Gaergybi.

·         Oherwydd ansicrwydd ynghylch y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo’r awdurdod i awdurdodi’r cyflwyniad terfynol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gais posibl y Cyngor i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i'w ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr yr adroddiad a oedd yn cynnig cyflwyniad posibl i'r Gronfa Codir Gwastad yn canolbwyntio ar becyn o brosiectau Caergybi. Yn seiliedig ar y ffactorau a nodir yn yr adroddiad, ystyrir mai'r dull hwn yw'r cyfle gorau posibl i gael cymeradwyaeth am gyllid. Gwnaed galwad agored am Ddatganiadau o Ddiddordeb (EOI) ar draws Ynys Môn gan y Cyngor ym mis Awst, 2021 a derbyniwyd cyfanswm o 11 Datganiad o Ddiddordeb o Gaergybi. Aseswyd y rhain gan Swyddogion o'r Swyddogaeth Datblygu Economaidd ac yn dilyn hynny daeth yn amlwg y gellid cyflwyno cais cryf yn seiliedig ar Gaergybi. Yn dilyn cymeradwyaeth yr Uwch Arweinwyr, mae Swyddogion, gyda chymorth ymgynghorwyr allanol, wedi bod wrthi’n datblygu cais posibl sy'n canolbwyntio ar Gaergybi. Mae hyn wedi cynnwys sicrhau rhagor o wybodaeth gan bob un o’r 5 Datganiad o Ddiddordeb  a chynnal trafodaethau manwl gyda nhw i asesu aeddfedrwydd, hyfywedd ac aliniad pob prosiect ag egwyddorion a gofynion y Gronfa Codi’r Gwastad.

 

Mae'r broses o ddatblygu a chwblhau'r cais posibl yn parhau ac ni chaiff ei chwblhau tan fis Mawrth. Felly, nid yw'n bosibl rhoi manylion am gwmpas, gwerth, risgiau a rhwymedigaethau posibl ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gofynnir am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith fel y gall Swyddogion barhau i ddatblygu'r cais.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo'r gwaith parhaus o baratoi cais Cronfa Codi’r Gwastad (LUF) sy'n canolbwyntio ar Gaergybi.

·         Oherwydd ansicrwydd ynghylch y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo’r awdurdod i awdurdodi’r cyflwyniad terfynol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd).