5 Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2021/22 PDF 746 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 2021/22, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn nodi sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 3 2021/22, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol y cerdyn sgorio terfynol ar gyfer y Weinyddiaeth bresennol a dywedodd ei bod yn galonogol nodi bod 85% o’r dangosyddion perfformiad yn perfformio’n dda yn erbyn eu targed
tra bo 82% yn perfformio tu hwnt neu o fewn 5% i’w targed. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio a Busnes Corfforaethol at nifer o feysydd a oedd yn sefyll allan mewn perthynas ag ailddefnyddio eiddo gwag, glanhau strydoedd a chynnydd yn nifer y bobl sy’n elwa o’r cynllun Ymarfer Corff. Nodwyd rhai meysydd sy’n tanberfformio ac mae’r rhain yn cael sylw fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Ar y cyfan mae’r Cyngor yn dal i berfformio’n dda oherwydd ymrwymiad ei staff a’i gontractwyr yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees asesiad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o’r adroddiad perfformiad ar y cerdyn sgorio yn dilyn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2022 gan amlygu’r meysydd perfformiad a heriwyd gan y Pwyllgor a chadarnhaodd bod y Pwyllgor yn hapus i argymell yr adroddiad ar y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru i’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn derbyn sicrwydd gan y Swyddogion a’r Deilydd Portffolio.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r adroddiad a’r perfformiad cadarn yr oedd yn ei adlewyrchu; a chyfeiriwyd at feysydd gwella dros y cyfnod adrodd yn cynnwys presenoldeb yn y gwaith sydd bellach yn 6.67 diwrnod wedi’i golli oherwydd absenoldeb am bob CALl yn erbyn targed heriol o 6.19 diwrnod o’i gymharu â tharged o 9.78 diwrnod wedi’i golli oherwydd absenoldeb am bob CALl a osodwyd yn 2017. Y perfformiad ym maes Addysg mewn perthynas â Dangosydd 4 - canran y disgyblion a aseswyd yn y Gymraeg ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen sydd yn 87% ac fe amlygwyd hyn fel rhywbeth y dylid ymfalchïo ynddo yn ogystal â’r ffaith nad oes yr un ysgol ar Ynys Môn mewn mesurau arbennig. Hefyd, amlygwyd y modd y caiff y Premiwm ar y Dreth Gyngor ei defnyddio i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd er mwyn galluogi’r Cyngor i adfer adnoddau a fyddai, fel arall, yn cael eu gwastraffu yn ogystal â mynd i’r afael â mater sydd yn aml iawn yn achosi pryder i gymunedau. Yn ogystal â hyn nodwyd y tuedd ar u fyny mewn perthynas â pherfformiad y rhan fwyaf o’r dangosyddion.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad monitro ar y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch3 2021/22, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.