3 Sefydlu Cyllideb Refeniw 2022/23 - Cynigion Drafft Terfynol PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Penderfyniad:
Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod, yn ysgrifenedig ac ar lafar, penderfynwyd cefnogi’r gyllideb refeniw ddrafft derfynol ar gyfer 2022/23, yn cynnwys cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor, ac argymell y gyllideb i’r Pwyllgor Gwaith.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried. Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth / Swyddog Adran 151 a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 ar y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2022/23 (roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu ar y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr, 2022).
Wrth gyflwyno’r adroddiad cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd Portffolio Cyllid bod cynigion drafft cychwynnol y Pwyllgor Gwaith wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ond oherwydd bod y setliad dros dro wedi’i gyhoeddi mor hwyr roedd yr ymgynghoriad yn agored am gyfnod cyfyngedig yn unig, a hynny rhwng 26ain Ionawr, a 9fed Chwefror 2022. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi sefyllfa ariannol y Cyngor a’r risgiau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ac roedd yn ceisio barn trethdalwyr Ynys Môn ar gynnig y Pwyllgor Gwaith i fynd i'r afael â'r risgiau hynny drwy ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a ariennir yn rhannol gan gynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor. Ceir dadansoddiad manwl o’r broses yn yr adroddiad ond yn gryno gellir adrodd bod 115 o ymatebion wedi dod i law ac o’r ymatebion hynny roedd 31% yn cytuno y dylid cael cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor a 69% yn anghytuno.
Nid yw’r cynnig drafft terfynol ar gyfer y gyllideb wedi newid ers i’r cynnig cychwynnol gael ei gyflwyno ym mis Ionawr, 2022 sef cyllideb net o £158.365m ar gyfer y Cyngor Sir a chynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor o ganlyniad, sef y cynnydd isaf yng Ngogledd Cymru a sy’n rhoi Ynys Môn yn y deunawfed safle allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Fe ganolbwyntiodd y Cyfarwyddwr Risg (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y risgiau cyllidebol a’u goblygiadau yn ogystal â’r ffactorau a all liniaru’r risgiau hynny a thrwy hynny leihau’r effaith. Roedd y risgiau wedi’u nodi ym mharagraff 5.3 yn yr adroddiad a’r risgiau mwyaf amlwg yw’r ansicrwydd ynglŷn â thâl a chwyddiant prisiau yn ystod 2022/23. Mae’r risgiau eraill yn cynnwys newidiadau mewn cyfraddau llog; llai o gyllid grant neu dynnu cyllid grant yn ôl; methu â chyrraedd targedau incwm; peidio â/neu osgoi talu premiwm y Dreth Gyngor; newid yn sylfaen y Dreth Gyngor a all effeithio ar incwm o’r Dreth Gyngor yn ogystal â chyfraddau casglu is o ganlyniad i’r pandemig; a newid yn y galw am wasanaeth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y risgiau a’r mesurau lliniaru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei fod o’r farn bod y cyllidebau’n gadarn a bod modd eu cyflawni.
Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor yn £11.437m, sy’n cyfateb i 7.77% o gyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2020/21. 10.94% os nad yw'r gyllideb ddatganoledig ysgolion yn cael ei chynnwys. Yn ystod y flwyddyn, clustnodwyd £4.5m ar gyfer y dibenion a nodwyd ym mharagraff 6.5 ac mae 643k wedi cael ei drosglwyddo’n ôl i falansau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3