9 Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2021/22 PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad ar yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Canol Blwyddyn ar gyfer 2021/22 a chyfeirio’r adroddiad at y Cyngor Llawn.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod yr adolygiad canol blwyddyn yn rhan o ofynion adrodd rheoli'r trysorlys o dan God Ymarfer CIPFA a'i fod yn unol â Chynllun Dirprwyo'r Cyngor. Bu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn craffu ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys yn ystod hanner cyntaf 2021/22 ac yn cadarnhau bod tanwariant yn y rhaglen gyfalaf wedi arwain at rai newidiadau i ariannu'r rhaglen gyda benthyca wedi'i ddiwygio i lefel is o ganlyniad. Disgwylir i weithgarwch benthyca aros o fewn y ffin weithredol. Mae cyfraddau llog gwell yn golygu bod y Cyngor wedi bod yn ceisio sicrhau'r elw gorau posibl ar fuddsoddiadau gan roi sylw i ddiogelwch a hylifedd ac archwaeth risg y Cyngor. Ni ragwelir unrhyw ddiwygiadau i'r strategaeth ar hyn o bryd.
Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad ar Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 a chyfeirio’r adroddiad at y Cyngor Llawn.