Mater - cyfarfodydd

Corporate Scorecard - Quarter 4, 2021/22

Cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 4, 2021/22 pdf eicon PDF 700 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro ar  y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch4 2022/23, nodi meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2021/2022 i’r Pwyllgor Gwaith

ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a nododd ei bod yn galonogol adrodd bod y mwyafrif (92%) o'r dangosyddion corfforaethol a gafodd eu monitro yn erbyn y targedau wedi'u cyflawni. Roedd hefyd yn galonogol bod dangosyddion gwasanaeth wedi'u cyrraedd gyda 91% o'r dangosyddion perfformiad penodol yn perfformio uwchlaw'r targed. Rhoddodd enghreifftiau o berfformiad da yn ystod y flwyddyn oedd yn cynnwys canran y cleientiaid NERS yr oedd eu hiechyd wedi gwella ar ôl cwblhau'r rhaglen ymarfer corff - sydd â pherfformiad o 84% yn erbyn targed o 80%. Nifer yr eiddo gwag yr aethpwyd yn ôl i’w defnyddio - aethpwyd yn ôl i ddefnyddio 91 eiddo yn erbyn targed o 50. Dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach fod tri dangosydd rheoli gwastraff wedi perfformio'n dda yn erbyn targedau yn ystod y flwyddyn, gyda 95.5% o strydoedd a gafodd eu harolygu yn yr ardal yn lân a dim gwastraff arnynt. Mae'n galonogol nodi, hefyd, bod achosion o dipio anghyfreithlon yn cael eu clirio o fewn 0.25 diwrnod. Mae’r tri dangosydd priffyrdd sy’n ymwneud ag arolygon o gyflwr ffyrdd A, B ac C yr Ynys yn wyrdd yn erbyn targedau ac wedi gwella o gymharu â 2020/21. Mae perfformiad blwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer yr holl ddangosyddion cymaradwy (cyfanswm o 30) yn dangos bod 18 (60%) wedi gwella yn ystod y flwyddyn, 10 (33%) wedi dirywio a 2 (7%) wedi cynnal lefel eu perfformiad.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, rôl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Dywedodd fod Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 20 Mehefin, 2022 a chodwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor:

 

  • Nododd yr aelodau fod y Cerdyn Sgorio’n crynhoi perfformiad lleol y Cyngor yn ystod Chwarter 4 2021/22 ac yn dangos darlun cadarnhaol;
  • Roedd yr adroddiad yn trafod perfformiad ein trefniadau amddiffyn plant. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn mynd i'r afael â'r mater allweddol hwn;
  • Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor am berfformiad lleol yn erbyn Dangosydd Perfformiad 32 → canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Gofynnwyd cwestiynau am unrhyw effaith ariannol o danberfformio a hefyd y mesurau lliniaru sydd ar waith i gael effaith gadarnhaol ar berfformiad lleol. Cytunwyd bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i berfformiad y Cyngor ar ailgylchu a’r mesurau lliniaru sydd i’w cyflwyno ar ôl i’r Gweithgor Ailgylchu gyda WRAP Cymru adrodd ar ganfyddiadau eu hadolygiad.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch tanberfformiad yn erbyn Dangosydd 36 - canran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd. Derbyniodd y Pwyllgor yr eglurhad ynghylch effaith nifer fach o achosion ar y ganran derfynol
  • Adroddwyd bod ymateb amserol i gwynion gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn broblem yn Chwarter 4 a gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch perfformiad yn y maes hwn.

 

Dywedodd Cadeirydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5