Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring - Quarter 4, 2021/22

Cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Alldro Cyfalaf 2021/22 pdf eicon PDF 447 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

·      Nodi sefyllfa alldro drafft y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 sy’n destun Archwiliad; a

·      Cymeradwyo dwyn ymlaen £11.242m i 2022/23 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriant. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2022/23 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 yw £47.203m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb Gyfalaf y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, gydag amodau archwilio.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £15.842m ym mis Mawrth 2021 ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai ar gyfer 2021/2022, a Rhaglen Gyfalaf o £20.313m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Yn ogystal, ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith Lithriad Cyfalaf o £11.898m i’w ddwyn ymlaen o 2020/21, gan ddod â’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai i £25.492m, a £22.561m ar gyfer y CRT. Ers proses pennu'r gyllideb, mae cynlluniau ychwanegol wedi'u hychwanegu at y rhaglen, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu â grant, sef cyfanswm o £15.445m. Daw hyn â chyfanswm y gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 i £63.498m. Y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol oedd £40.937m, gyda Gwariant o £23.734m ar 31 Mawrth 2022 sy’n cyfateb i 58% o’r gyllideb. Rhestrwyd y rhesymau dros y tanwariant ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Dywedodd ymhellach fod y Cyfrif Refeniw Tai wedi gwario 43% o gyfanswm ei gyllideb, gyda thanwariant sylweddol yn cael ei ragweld trwy gydol 2021/2022.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y rhesymau dros y tanwariant ar gyfer 2021/2022 ac yn benodol bod grantiau wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru tuag at brosiectau cyfalaf, bod y grantiau hyn yn cael eu derbyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol a’u bod yn amhosib gwario’r grantiau ar y prosiectau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u clustnodi ar gyfer y grantiau hyn. Mae’r sector adeiladu wedi wynebu problemau wrth gyflenwi deunyddiau adeiladu yn ystod y pandemig, ac wedi hynny, gydag oedi wrth ddosbarthu deunyddiau yn achosi oedi i gontractwyr yn cwblhau gwaith. Dywedodd ymhellach fod derbyn tendrau derbyniol, o fewn cyllidebau, hefyd wedi bod yn broblem oherwydd y cynnydd mewn costau deunyddiau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2021/2022 a gaiff ei harchwilio, a

·           Cymeradwyo cario £11.242m ymlaen i 2022/2023 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario ymlaen i 2022/2023 (Atodiad A – paragraff 4.3 yr adroddiad). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/2023 yw £47.203m.