Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 4, 2021/22

Cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Adroddiad Alldro'r Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 4, 2021/22 pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 1 Ebrill, 2021 i 31 Mawrth, 2022.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad  gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd fod y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) wedi’i neilltuo ar gyfer y stoc tai ac na ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol ac na all cronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol ychwaith gael eu defnyddio i ariannu'r CRT. Roedd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i addasu yn rhoi diffyg yn y gyllideb wedi'i chynllunio o £9,116k a fyddai'n cael ei ariannu o gronfa wrth gefn y CRT. Mae'r gwariant Cyfalaf £12,667k yn is na'r gyllideb, mae hyn ar ôl cymryd i ystyriaeth y cyllid Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol o £706k, y mae’r manylion i'w gweld yn Atodiadau A a B yr adroddiad. Mae'r gwarged (sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf) £11,726k yn is na'r gyllideb, yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r hyn a gyllidebwyd. Mae hyn yn gynnydd o £1,851k o'i gymharu â'r rhagolwg a ddangoswyd yn adroddiad Chwarter 3. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf ag Incwm Grant Cyfalaf ychwanegol a dderbyniwyd yn Chwarter 4 sy'n gwrthbwyso'r gostyngiad yn y gwarged refeniw o £648k, o gymharu â rhagolwg Chwarter 3.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai balans y CRT yw £12m ond bydd yn cael ei ddefnyddio dros y flwyddyn tuag at y prosiectau o fewn y Cynllun Busnes 30 mlynedd; y bwriad yw dod â'r balans o fewn y CRT i lawr i tua £1m. Bydd y gyllideb HRA yn cael ei defnyddio i ariannu'r stoc tai newydd y mae'r Cyngor yn bwriadu ei adeiladu a phan fydd y gronfa CRT yn disgyn dan £1m bydd y Cyngor yn benthyca arian i ariannu'r prosiectau adeiladu newydd ar yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022.