7.1 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn
7.2 – HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona
7.3 – FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i caniatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau, yn
Chwarelau, Brynsiencyn
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd pryderon am leoliad y man pasio a’r parcio ar y safle.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).
7.2 HHP/2021/303 – Cais llawn i ddymchwel ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei le yn Pant y Bwlch, Llanddona
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 FPL/2021/61 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahan i anecs ynghyd a datbylgiadau cysylltiedig yn Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau), yn
Chwarelau, Brynsiencyn.
(Ar ôl datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y cyn aelod lleol oherwydd pryderon ynglŷn â’r briffordd. Yn ei gyfarfod ar 6 Ebrill, 2022 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Mehefin, 2022.
Siaradwyr Cyhoeddus
Siaradodd Dr Siôn Morris Williams yn erbyn y cais. Dywedodd ei fod yn cynrychioli ei deulu, ffrindiau a’r cyhoedd sy’n defnyddio’r ffordd i Ynys Wen o briffordd y B4419. Dywedodd bod ei deulu wedi ffermio’r tir yn Ynys Wen ers tair cenhedlaeth ers i’w hen daid ddychwelyd o’r Rhyfel yn 1918 a dechrau tenantiaeth drwy Gyngor Ynys Môn. Yn y dyfodol, mae’n gobeithio mai ef fydd y bedwaredd genhedlaeth i ffermio’r tir yn Ynys Wen. Aeth Dr Morris Williams ymlaen i ddweud bod y ffordd o briffordd y B4419 i Ynys Wen bellach yn gwasanaethu 3 eiddo; Fferm Chwarelau, Tŷ Fron Goch a Fferm Ynys Wen. Yn y 1970au cynnar cafodd y ffordd ei mabwysiadu gan Gyngor Sir Ynys Môn yn dilyn cytundeb gyda pherchennog Fferm Chwarelau, Mr John Jones. Roedd y ffordd mewn cyflwr gwael ar y pryd ac roedd yn gwasanaethu dau o ffermydd y Cyngor sef Ynys Wen a Fron Goch yn ogystal â’r fferm gyntaf (Fferm Breifat) ar hyd y ffordd, sef Chwarelau. Gosodwyd tarmac ar hyd y ffordd gan y Cyngor ac mae’r ffordd wedi cael ei chynnal a’i chadw ganddo ers dros hanner canrif. Nododd ei fod ef a’i deulu’n gwrthwynebu’r cais cynllunio oherwydd diogelwch. Mae 3 rhan o’r cais cynllunio, yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd a’r briffordd (y ffordd i Ynys Wen o’r B4419), yn destun pryder iddynt. Mae cerbydau, peiriannau amaethyddol trwm, cerbydau nwyddau a cherddwyr yn defnyddio’r ffordd yn ddyddiol. Mae man pasio wedi cael ei greu erbyn hyn ond mae wedi’i leoli yn y man anghywir ac mewn lle peryglus iawn ar dro cas ac nid yw’r man pasio wedi ei wneud o’r un deunyddiau â’r ffordd. Cyfeiriodd at gynllun lleoliad cais FPL/2019/212. Yn y cynllun lleoliad mae’r man pasio wedi’i leoli mewn man diogel ac addas yn unol ag amod rhif 6 a oedd yn caniatáu cymeradwyo’r cais ‘yn unol â diogelwch y briffordd’. Roedd wedi’i leoli ar ddarn syth o’r ffordd rhwng y B4419 a Chwarelau, gyda gwelededd clir a fyddai’n galluogi i gerbyd i dynnu i mewn yn ddiogel pe byddai traffig yn dod i’r cyfeiriad arall. Nid oedd yn ymwybodol o fan pasio arall sydd wedi cael ei leoli ar droad mor beryglus â hon, ond roedd yn ymwybodol o fannau pasio ar ffyrdd syth, gyda gwelededd er mwyn cynnal diogelwch. Yn anffodus, nid yw’r man pasio sydd wedi cael ei greu yn helpu i ddiogelu’r briffordd. Cyfeiriodd yn ôl at gais ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7