10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 538 KB
10.1 – FPL/2021/243 - Ty Ni, Plot 1 Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 FPL/2021/243 – Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd yn gynt dan ganiatad cynllunio rhif 24C268J/DA yn
Tŷ Ni, Plot 1 Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 FPL/2021/243 -Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio rhif 24C268J/DA yn Nhŷ Ni, Plot 1, Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i roi ym mis Medi 2008 ar gyfer datblygu’r plot hwn. Adnewyddwyd y cais ddwywaith, yn 2011 a 2015, a rhoddwyd caniatâd materion a gadwyd yn ôl ym mis Mawrth 2018dan gyfeirnod 24C268J/DA. Mae'r datblygiad wedi dechrau ac mae wedi cyrraedd cam datblygedig o’r gwaith adeiladu. Mae’r datblygiad ar y safle yn cynnwys ystafell haul a garej ar wahân nad oedd yn rhan o’r caniatâd gwreiddiol. Er bod y datblygiad sy'n cael ei adeiladu yn cynnwys yr ystafell haul a garej, mae fel arall yn cyd-fynd â'r cynlluniau a ganiatawyd yn wreiddiol. O ganlyniad, ystyrir bod y datblygiad a gymeradwywyd wedi'i weithredu a'i fod yn darparu sefyllfa wrth gefn ddilys. Mae’r cais yn groes i ddarpariaethau polisi TAI 6 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod y caniatâd gwreiddiol wedi’i weithredu ac mae’r gwaith adeiladu bron â’i gwblhau. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Cynigodd y Cynghorydd Liz Wood bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.