12 Gweddill y Ceisiadau PDF 8 MB
12.1 – FPL/2021/267 - Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
12.2 – FPL/2022/7 - Mornest Caravan Park, Pentre Berw
12.3 – FPL/2021/317 - Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
12.4– FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes
12.5 – FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Treaddur
12.6 – MAO/2022/11 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
12.7 – FPL/2022/65 - Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi
12.8 – FPL/2021/266 – Ffordd Garreglwyd, Caergybi
12.9 – VAR/2020/20 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
12.10 – FPL/2021/160 - Bryn Bela, Lon St Ffraid, Trearddur
12.11 – TP/2022/8 – 12 Brig y Nant, Llangefni
12.12 – OP/2021/10 - Tir gerllaw a Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd
12.13– FPL/2021/198 - Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2021/267 – Cais llawn ar gyfer codi llety gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.2 FPL/2022/7 – Cais llawn i ail ddatblygu’r maes carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i gynnwys carafanau symudol, ynghyd â chodi bloc toiledau/cawodydd llawn yn Parc Carafanau Mornest, Pentre Berw
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.3 FPL/2021/317 – Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat breswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat breswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chwaraeon dŵr. cyfleuster ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2021/349 – Cais llawn ar gyfer creu menage marchogaeth preifat ynghud a newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yn Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.5 FPL/2022/63 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y sied storio bresennol i fod yn giosg gwerthu bwyd a diod ar gyfer hufen ia, wafflau a diodydd meddal yn Ocean's Edge, Lon Isallt, Bae Treaddur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 MAO/2022/11 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatád cynllunio FPL/2019/34 er mwyn diwygio tirlunio meddal yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 FPL/2022/65 – Cais llawn i gadw maes parcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis yn Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 FPL/2021/266 – Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â thirlunio caled a meddal ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.9 VAR/2022/20 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) (Symud adeilad ac adfer y tir i gyflwr blaenorol cyn 01/04/2022) o caniatâd cynllunio rhif FPL/2021/220 ( Adeilad parod dros dro) er mwyn cadw yr adeilad ar y safle hyd at 31/01/2023 yn
Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu ... view the full Penderfyniad text for item 12
Cofnodion:
FPL/2021/267 - Cais llawn ar gyfer codi llety gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mhlot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Alun Mummery, aelod lleol, am ymweliad safle gan fod y cais gwreiddiol wedi’i gyflwyno yn 2010. Nododd bod pryderon wedi cael eu codi’n lleol am y cais.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.2 FPL/2022/7 – Cais llawn i ail ddatblygu’r maes carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i gynnwys carafanau symudol, ynghyd â chodi bloc toiledau/cawodydd llawn ym Mharc Carafanau Mornest, Pentre Berw
Bu i’r Cynghorydd Alwen Watkin ddatgan bod yr ymgeisydd wedi cysylltu â hi mewn perthynas â chais rhif 12.2.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Nododd y Cynghorydd Alwen Watkin, aelod lleol, y byddai’n fanteisiol pe byddai’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle gan fod yr adroddiad yn argymell gwrthod un elfen o’r cais a derbyn elfen arall ohono.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.3 FPL/2021/317 - Cais llawn i ddymchwel yr adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod, cyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig yn Cumbria and High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais cyn Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorwyr Geraint Bebb a Ken Taylor am ymweliad safle gan fod pryderon ynglŷn â gorddatblygu’r safle a materion yn ymwneud â pharcio a mynediad.
Bu i’r Cynghorydd Neville Evans, aelod lleol, hefyd ofyn am ymweliad safle oherwydd bod Cyngor Cymuned Llanfaelog wedi mynegi pryder ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelodau Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu 'menage' marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yng Nghaerau, Llanfairynghornwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi am ymweliad safle oherwydd pryderon yn lleol y byddai’r cynllun yn arwain at orddatblygu’r safle a materion yn ymwneud â diogelwch priffyrdd.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.5 FPL/2022/63 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y sied storio bresennol i fod yn giosg gwerthu bwyd a diod ar gyfer hufen ia, wafflau a diodydd meddal yn Ocean’s Edge, Lon Isallt, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y ciosg yn elfen israddol i'r bwyty presennol ar y safle. Bydd gan y ciosg ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12