4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 371 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Demcrataidd Dros Dro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Awst 2022 i Fawrth 2023, fel y’i cyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Awst, 2022 i Fawrth, 2023 a nodwyd y newidiadau a ganlyn –
· Eitemau Newydd
• Eitem 2 - Penodi Cynorthwywyr i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 27 Medi.
• Eitem 13 - Safle Peboc ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 25 Hydref, 2022
• Eitem 14 – Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 25 Hydref, 2022
• Eitem 21 – Cynllun Rheoli Cyrchfan ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 29 Tachwedd, 2022
• Eitem 31 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2022/23 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 21 Mawrth, 2023
• Eitem 32 – Adroddiad Cynnydd Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 21 Mawrth, 2023.
· Newid i eitem a adroddwyd yn flaenorol
Amlygodd y Swyddog Polisi yr adroddwyd i gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin y byddai’r Arweinydd yn gwneud penderfyniad dirprwyedig ynghylch a ddylid parhau i gydweithio ynteu uno â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd. Ar ôl adolygu'r dogfennau, dywedodd ei bod wedi dod yn amlwg mai'r amod oedd y dylai'r ddau Fwrdd gyfarfod i ddod i benderfyniad ar wahân, er bod gofyn cyfreithiol i'r trefniant gael ei adolygu ar ôl yr Etholiad Llywodraeth Leol. Mae'r ddau Fwrdd wedi cyfarfod ers hynny ac wedi penderfynu parhau i gydweithio sy'n golygu nad oes angen penderfyniad dirprwyedig gan yr Arweinydd ynglŷn â threfniadau i'r dyfodol gan na fu unrhyw newid i'r sefyllfa bresennol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cynnwys eitem ar wariant Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar Raglen Waith cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2022, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Gwasanaeth Tai wedi gwneud y cais a dywedodd, er nad oedd ganddo wrthwynebiad mewn egwyddor i'w gynnwys, ei fod yn dymuno trafod y mater ymhellach gyda Phennaeth y Gwasanaethau Tai i sicrhau bod y Gwasanaeth mewn sefyllfa i adrodd i gyfarfod mis Medi yn wyneb toriad mis Awst.
Cytunwyd gadael i’r Prif Weithredwr bennu amseriad yr eitem ar y Rhaglen Waith, mewn trafodaeth â Phennaeth y Gwasanaethau Tai.
Penderfynwyd cadarnhau Rhaglen Gwaith Cychwynnol y Pwyllgor Gwaith, wedi’i diweddaru, am y cyfnod rhwng Awst, 2022 a Mawrth, 2022 fel y’i cyflwynwyd.