12 Gweddill y Ceisiadau PDF 5 MB
12.1 – TPO/2022/16 - Tir rhwng yr cronfa ddwr a 30, Ty Mawr Estate, Porthaethwy
12.2 – VAR/2022/48 - Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch
12.3 – FPL/2022/134 – Tithe Barn, Henblas, Llangristiolus
12.4 – DIS/2022/62 - Ysgol Y Graig, Ffordd y Coleg, Llangefni
12.5 – VAR/2021/65 - Fferm Wynt Llyn Alaw, Llanbabo
12.6 – HHP/2022/46 - Tan Yr Allt Bach, Llanddona
12.7 – HHP/2022/219 – 7 Tre Gof, Llanddaniel
12.8 – HHP/2022/171 - Awel Y Bryn, Trigfa, Moelfre
12.9 – FPL/2022/216 – Glanllyn, Llanedwen
12.10 – FPL/2022/198 – Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Mon, Llangefni
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 TPO/2022/16 – Cais i wneud gwaith ar 6 o coed sydd wedi ei/eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ar dir rhwng y gronfa ddŵr a 30, Ty Mawr Estate, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 VAR/2022/48 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) o caniatâd cynllunio rhif 45C260B (Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o A1 (man werthu) i ddefnydd cymysg A1 ac A3 (man werthu a bwyd a diod)) er mwyn newid oriau agor presennol yn Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch
PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod y Pwyllgor o’r farn na fyddai'r cais yn achosi effeithiau andwyol annerbyniol ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos gan fod eiddo masnachol eraill wedi'u lleoli yn yr ardal gyfagos;
· caniatáu i'r eiddo agor rhwng 9.00 a.m. a 10.00 p.m., saith diwrnod yr wythnos, am gyfnod prawf o 2 flynedd.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).
12.3 FPL/2022/134 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i gosodiad gwyliau 2 ystafell wely yn Tithe Barn, Henblas, Llangristiolus
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 DIS/2022/62 – Cais i ryddhau amod (02a) ( Archaeolegol), (07) (Asesiad Risg Bioddiogelwch) a (17) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/361 ( codi uned cyfnod sylfaen a uned gofal plant newydd) a MAO/2022/16 (Mân newidiadau) ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 VAR/2021/65 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 13 a 14 o ganiatâd cynllunio rhif 47C74 Codi 34 o felinau gwynt 53 metr mewn uchder llawn ynghyd a darparu lon atynt a gwneud gwaith datblygu cysylltiedig yn cynnwys darparu cyfnewidyddion ac is-orsaf a tri fast anemomedr ar dir tua'r Gogledd o Llyn Alaw er mwyn ymestyn cyfnod gweithredol tan 22/10/2032, ymestyn y cyfnod datgomisiynu i 12 mis a chael eglurhad ynghylch y cyfnod i ddatgomisiynu y tyrbinau gwynt os yw'n methu â chynhyrchu trydan parhaus yn Fferm Wynt Llyn Alaw, Llanbabo
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 HHP/2022/46 – Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.
12.7 HHP/2022/219 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu yn 7 Tre Gof, Llanddaniel
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 HHP/2022/171 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet ... view the full Penderfyniad text for item 12
Cofnodion:
12.1 TPO/2022/16 – Cais i wneud gwaith ar 6 o goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ar dir rhwng y gronfa ddŵr a 30, Ystâd Tŷ Mawr, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Awdurdod Lleol sy'n berchen ar y safle.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cyfeirio at waith ar 6 choeden sy'n destun Gorchymyn Diogelu Coed o'r enw 'Hen Gronfa Ddŵr' Porthaethwy a wnaed yn 1988. Mae'r coed wedi'u lleoli ar dir sy'n rhan o arglawdd gogleddol y gronfa ddŵr, oddi ar ffordd Pentraeth ym Mhorthaethwy. Yn ddiweddar, cynhaliwyd arolwg ar y coed oherwydd clefyd y coed ynn a bwriedir torri chwe choeden
oherwydd eu cyflwr a’u lleoliad ger y llwybr troed ar hyd y briffordd a ddefnyddir gan y cyhoedd a phlant sy’n cerdded i Ysgol David Hughes.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ken Taylor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 VAR/2022/48 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) o ganiatâd cynllunio rhif 45C260B (Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o A1 (man werthu) i ddefnydd cymysg A1 ac A3 (man werthu a bwyd a diod)) er mwyn newid oriau agor presennol yn Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch
Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Wrth siarad o blaid y cais dywedodd Ms Sue Madine mai hi, ynghyd â Diane Broad, sy’n rhedeg ac yn berchen a Gaffi Wiwer Goch ac Oriel Nyth y Wiwer yn Niwbwrch. Dywedodd fod slot 3 munud heddiw yn teimlo'n gwbl annigonol i ymateb i wrthwynebiadau i'r cais a dadlau’r achos dros ddiogelu swyddi a dyfodol y busnes. Mae’r adran gynllunio yn tybio y bydd agor y caffi gyda'r nos yn cael effaith andwyol ar drigolion cyfagos. Hwn yw'r unig fusnes allan o 5 ar y sgwâr sy'n gorfod cau am 5pm. Ers agor yn 2014, mae'r busnes wedi darparu swyddi i 25 o bobl leol sy'n siarad Cymraeg yn bennaf; Ar hyn o bryd mae'n cyflogi 5, gyda channoedd o filoedd o bunnoedd yn cael ei gynhyrchu i'r economi leol. Mae'r caffi yn cefnogi neu'n cael ei wasanaethu gan 8 o gwmnïau o Ynys Môn. Mae'r oriel yn fan arddangos a gwerthu i 12 o grefftwyr annibynnol Ynys Môn. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrthwynebiadau a godwyd yn destun dyfalu, yn farn, yn ffug a heb unrhyw wir dystiolaeth. Ar ôl blynyddoedd o gwynion yn erbyn y caffi, mae cofnodion y cyngor yn cadarnhau, er gwaethaf nifer o ymweliadau gan y cyngor ac yn llythrennol cannoedd o geisiadau i fesur sŵn gan ein cymydog agosaf, nad oes unrhyw achos o niwsans statudol wedi'i ganfod erioed. Ni chymerwyd unrhyw gamau gorfodi erioed. Mae'r arferion gweithio presennol a’r drefn o weithio yn y gegin wedi lleihau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12