4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 432 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr (a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Rhagfyr, 2022 i Orffennaf, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd, yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Gorffennaf 2022 i fis Chwefror 2023.
Cyflwynodd y Swyddog Polisi'r sefyllfa ddiweddaraf i'r Pwyllgor Gwaith ynghylch aildrefnu eitem 2 (Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth Tai 2023/24) o fis Tachwedd i gyfarfod 13 Rhagfyr ac eitem 3 (Adran 6 Deddf Dyletswydd Bioamrywiaeth yr Amgylchedd (Cymru) 2016) o fis Rhagfyr i gyfarfod 24 Ionawr, 2023 a dywedodd y byddai Eitem 4 (Trefniadau Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymru (awdurdod lleol)) bellach yn benderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid.
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith oedd wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Rhagfyr, 2022 a Gorffennaf, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.