Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring - Quarter 2, 2022/23

Cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2022/23 pdf eicon PDF 856 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd–

 

·                Nodi'r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.

·                Nodi'r crynodeb o'r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 fel y manylir yn Atodiad C.

·                Nodi monitro costau asiantaeth ac ymgynghori ar gyfer 2022/23 yn Atodiadau CH a D.

·                Cymeradwyo trosglwyddo'r tanwariant o £100k ar gyfer cynyddu band eang mewn ysgolion i gronfa wrth gefn a glustnodwyd i ariannu'r gwelliannau band eang yn 2023/24 sydd wedi'u gohirio oherwydd cwblhau prosesau caffael priodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, iddo ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg a rhoddodd wybodaeth gefndir am y gyllideb a osodwyd ar gyfer 2022/23. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelwyd ar gyfer 2022/23, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor, oedd tanwariant o £1.128m, sef 0.71% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23. Fodd bynnag, roedd cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch y sefyllfa derfynol oherwydd costau ychwanegol yn sgil dyfarniadau cyflog staff a phrisiau ynni cynyddol; prisiau uwch i'w talu am y mwyafrif o'r nwyddau a gwasanaethau a brynir gan y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant; cynnydd yn y galw a'r costau oedd yn gysylltiedig â misoedd y gaeaf yn ogystal â chynnydd cyffredinol yn y galw oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd y tanwariant a ragwelwyd hefyd yn cynnwys defnyddio £3m o gronfeydd wrth gefn i ymateb i bwysau ychwanegol. Er bod y prif ffigwr a ragwelwyd, felly, yn dangos sefyllfa bositif ar gyfer 2022/23, nid oedd yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa ac roedd yn hynod debygol ar ddiwedd y flwyddyn mai cadw ei phen uwchlaw’r dŵr fyddai’r gyllideb refeniw neu, o bosib, yn gorwario. Ar ôl defnyddio'r cronfeydd wrth gefn a chyllid grant ychwanegol, roedd y sefyllfa sylfaenol yn sylweddol waeth, gyda diffyg sylfaenol o dros £4m y byddai’n rhaid mynd i'r afael ag o wrth bennu cyllideb 2023/24.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylwadau’r Aelodau Portffolio a dywedodd fod y sefyllfa ariannol yn debygol o ddirywio yn ail hanner y flwyddyn gan olygu, hefyd, y byddai gosod cyllideb 2023/24 yn heriol iawn oherwydd y ffactorau y cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod Portffolio ac a nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at bryderon penodol ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, oedd dan bwysau cynyddol oherwydd y galw cynyddol. Rhagwelwyd y buasent yn gorwario i raddau sylweddol er y câi grantiau a chronfeydd wrth gefn ychwanegol eu defnyddio i leihau’r gorwariant. Ar y llaw arall, roedd gwarged a ragwelwyd yng nghyllideb y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff, yn bennaf yn sgil gwerthu tanysgrifiadau gwastraff gwyrdd a deunyddiau ailgylchadwy, yn gyfle i addasu’r gyllideb incwm at i fyny. Er rhagweld y byddai incwm craidd presennol Treth y Cyngor yn uwch na'r gyllideb a, hefyd, gyllideb Premiwm Treth y Cyngor, gallai’r sefyllfa newid wrth i amgylchiadau pobl newid, apeliadau gael eu gwneud, gostyngiadau ac eithriadau fod yn berthnasol a, hefyd, wrth i eiddo gael ei drosglwyddo o'r gofrestr ddomestig i'r gofrestr ardrethi busnes. Byddai’n rhaid i unrhyw orwariant diwedd blwyddyn gael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor oedd, yn ei dro,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7