Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring - Quarter 2, 2022/23

Cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2022/23 pdf eicon PDF 701 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.

·      Cymeradwyo'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer Melin Llynnon yn unol ag adran 4.2 o'r adroddiad.

 

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg a dywedodd mai £52.725m oedd cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai, llithriad cyfalaf o 2021/22 a chynlluniau ychwanegol oedd wedi dod ar y rhaglen wrth i grantiau cyfalaf ddod ar gael. (Yn yr adroddiad cafwyd y sefyllfa ddiweddaraf o ran cynlluniau grant cyfalaf yn rhaglen gyfalaf 2022/23). Er mai 103% oedd y gyllideb broffiliedig a wariwyd hyd at ddiwedd yr ail chwarter ar gyfer y gronfa gyffredinol, dim ond 37% o’r gyllideb flynyddol oedd wedi ei wario hyd yma, yn bennaf oherwydd bod nifer o’r cynlluniau cyfalaf wedi eu pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol. Y tanwariant a ragwelwyd ar y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23 oedd £5.572m, gyda hwn yn llithriad posibl i 2023/24, gyda’r tanwariant sylweddol a ragwelwyd o fewn y Cynllun Refeniw Tai yn gyfrifol am y cyfraniad mwyaf. Byddai’r cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2023/24 a châi ei gynnwys yn Natganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023/24, y Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf. Rhagwelwyd costau uwch gyda chynllun Melin Llynnon ac, i’r perwyl hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo cyllid ychwanegol er mwyn gallu cwblhau'r cynllun llawn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd Cyllideb Gyfalaf 2023/24 yn debygol o gynyddu’n sylweddol, er bod costau prosiectau cyfalaf yn cynyddu, gan gyfyngu ar yr hyn y gall y Cyngor ei wneud o ran gwariant cyfalaf. Nid oedd y grant cyfalaf cyffredinol wedi newid fawr ddim, gyda chyfran gynyddol o'r cyllid yn cael ei wario ar gynnal asedau a llai ar gynlluniau newydd neu gynlluniau twf. Golygai hyn ei bod yn mynd yn anos bob blwyddyn i osod cyllideb gyfalaf oedd yn symud yr Ynys yn ei blaen. Câi swm cynyddol o wariant cyfalaf hefyd ei ariannu gan grantiau allanol yr oedd llawer ohonynt ynghlwm wrth brosiectau penodol.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr, hefyd, sylw at y ffaith fod llawer o'r grantiau a ddyfarnwyd yn gystadleuol, a olygai bod angen amser ac adnoddau i baratoi ceisiadau a datblygu achosion busnes ar gyfer y broses gystadleuol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod gostyngiad yn y gyllideb gyfalaf yn rhoi her ychwanegol o ran gallu gweithredu cynlluniau oedd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau a hefyd o ran rheoli cyllideb oedd yn cyd-fynd â disgwyliadau a/neu ddyheadau.

 

Penderfynwyd

 

·        Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.

·         Cymeradwyo'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer Melin Llynnon yn unol ag adran 4.2 yr adroddiad.