Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 2, 2022/23

Cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai Chwarter 2, 2022/23 pdf eicon PDF 302 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi'r sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2022/23.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai yn Chwarter 2 2022/23.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg a dywedodd fod gwarged/diffyg refeniw'r CRT ar ddiwedd Chwarter 2 yn dangos gorwariant o £493mil o gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Roedd y rhagolwg wedi'i adolygu ac yn dangos gorwariant rhagamcanol o £958k, gyda £298k ohono yn ymwneud â dyfarniad cyflog 2022/23, yr oedd yn ofynnol i'r CRT ei ariannu'n llawn. Roedd gwariant cyfalaf £2k yn uwch na'r gyllideb broffiliedig oedd yn rhagdybio y câi llawer o'r gwaith ei wneud yn ail hanner y flwyddyn. Roedd y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn £2,949k yn is na'r gyllideb. Roedd y diffyg a ragwelwyd, oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf, bellach yn £4,137k, £1,991k yn is na'r gyllideb, yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r hyn a gyllidebwyd. Balans agoriadol cronfa'r CRT oedd £12,333k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu defnyddio £6,128k o'r balans hwn. Fodd bynnag, £4,137k yn unig fyddai’r rhagolygon diwygiedig yn ei ddefnyddio, gan arwain at falans wrth gefn o £8,196k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Felly, roedd y balans wedi'i glustnodi ac ar gael i ariannu gwariant CRT y dyfodol yn unig.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams at Atodiad C, lle cafwyd dadansoddiad o’r gwariant ar gynlluniau adeiladau newydd/caffael presennol a thynnodd sylw at y ffaith mai £6miliwn oedd cyfanswm y Cyngor o ran gwariant a ragwelwyd ar ddatblygu cynlluniau tai newydd yn 2022/23.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai'r cynlluniau a restrwyd yn Atodiad C oedd y rhai y cytunwyd arnynt ac y gweithredid arnynt. Byddai’r Gwasanaeth Tai yn ychwanegu cynlluniau newydd at y rhai a restrwyd wrth i'r Cyngor barhau i ddatblygu ac ehangu ei stoc tai. Wrth iddo wneud hynny, byddai balans wrth gefn y CRT, sef £8,196k, yn lleihau’r strategaeth a ddefnyddid i dynnu o’r balans wrth gefn yn y lle cyntaf, cyn i’r CRT symud i fenthyca’n allanol. Telid costau benthyca o'r incwm a gynhyrchir gan y tai a ddatblygid. Câi pob cynllun datblygu tai arfaethedig ei asesu i ganfod a oedd yn ariannol hyfyw.

Penderfynwyd–

·           Nodi'r sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2022/23.

·           Nodi’r alldro a ragwelwyd am 2022/23.