Mater - cyfarfodydd

Disabled Facilities Grants Policy

Cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Grant Cyfleusterau i’r Anabl – Newid mewn Polisi pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo dileu’r prawf modd ariannol ar gyfer gwaith bach a chanolig hyd at £10,000 o’r broses ymgeisio am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i newid Polisi’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl fel y ceid gwared â’r prawf modd o’r broses ymgeisio ar gyfer addasiadau bach a chanolig.

 

AmlinelloddPennaeth y Gwasanaethau Tai ddiben y Grant Cyfleusterau i'r Anabl ac eglurodd y broses ymgeisio. Cyn y pandemig roedd y gyllideb o £750,000 yn cwrdd â’r galw ac fe'i gwariwyd yn llawn o fewn y flwyddyn ariannol. Er bod y galw wedi lleihau yn ystod y pandemig, yn ystod y chwe mis diwethaf, gwelwyd achosion a gafodd eu gohirio yn ystod y cyfnod hwnnw yn dod yn ôl i’r system, gyda nifer o’r rheini’n ddyfarniadau grant sylweddol oedd yn debygol o roi mwy o bwysau ar y gyllideb. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol gael gwared â phrofion modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig, gyda phob awdurdod yn cael cynnydd o 10% yn ei gyllideb Galluogi i dalu’r gost ychwanegol. Gwaith bach oedd y gwaith oedd yn costio hyd at £1,000 ac roedd gwaith canolig yn cyfeirio at waith oedd yn costio rhwng £1,000 a £10,00. Barnwyd bod yr holl waith oedd yn costio dros £10,000 yn addasiadau mawr a byddent yn parhau i fod yn rhan o’r drefn prawf modd. Yn yr adroddiad, ceid enghreifftiau o'r math o waith a ddeuai dan y categorïau bach a chanolig. Byddai cael gwared â’r profion modd o broses y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn lleihau’r amser y byddai’n ei gymryd i brosesu ceisiadau. Gallai, hefyd, leihau nifer y cleientiaid a wnâi heb addasiadau a gâi eu hargymell, oherwydd y prawf modd. Ystyriai’r adroddiad, hefyd, effaith bosibl y newid mewn polisi ar alw a'r hyn y gallai cynnydd yn y galw ei olygu o ran costau a'r amserlen ar gyfer cwblhau addasiadau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cael gwared â’r prawf modd ariannol o'r broses ymgeisio am Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer gwaith bach a chanolig hyd at £10,000.