Mater - cyfarfodydd

Changes to the Housing Allocations Policy

Cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Y Polisi Gosod ar gyfer Tai Cymdeithasol pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·                Cymeradwyo newid rhannol dros dro yn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cyflwyno'n ddigartref sydd wedi'u lleoli neu mewn perygl o gael eu gosod mewn llety brys/dros dro.

·                Bod dyraniadau a wneir yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer aelwydydd digartref yn cael eu cymeradwyo gan y Rheolwr Tîm Opsiynau Tai gan na fyddai'r gosodiadau hyn yn cadw at y Polisi Gosod Cyffredin.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i addasu’r Polisi Gosod Cyffredin dros dro er mwyn ymateb i anghenion tai unigolion mewn llety brys/dros dro.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn y nifer oedd angen cymorth oherwydd cyfuniad o ffactorau, gyda 42 o aelwydydd mewn llety brys/dros dro yn ystod wythnos olaf mis Hydref, gan gynnwys 12 aelwyd deuluol. Roedd swyddogion yn parhau i fod â llwyth achosion uwch oherwydd y cynnydd mewn pobl a gyflwynai’n ddigartref a’r ffaith nad oedd cyfle i symud i lety sefydlog. Mewn ymgais, felly, i gael trosiant o bobl yn gadael y llety brys a lleihau’r angen amdano, roedd y Gwasanaeth yn cynnig addasu ei broses gosod er mwyn caniatáu i un o bob pedwar eiddo gael ei osod i unigolion oedd mewn llety brys neu mewn perygl o fod yn ddigartref a pheidio â dilyn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer pob achos. Byddai gwneud hyn yn sicrhau bod y rhai oedd â'r angen mwyaf am dai yn cael eu hystyried yn gynt ac yn cael cynnig tai addas. Byddai nifer y gosodiadau o'r fath yn cael eu monitro'n chwarterol a châi trefn adolygu ei datblygu i sicrhau y câi cymorth priodol ei roi i gynnal y denantiaeth. Pe câi ei gefnogi, byddai'r dull gosod yn uniongyrchol yn cael ei gymeradwyo gan y Rheolwr Opsiynau Tai, gan nad yw gosodiadau o'r fath yn unol â'r Polisi Gosod Cyffredin.

 

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo newid rhannol dros dro yn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr unigolion oedd yn cyflwyno'n ddigartref ac oedd wedi’u rhoi mewn llety brys/dros dro neu mewn perygl o gael eu gosod ynddynt.

·      Bod Rheolwr y Tîm Opsiynau Tai yn cymeradwyo gosodiadau a wnaed yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer aelwydydd digartref, gan na fyddai'r gosodiadau hyn yn glynu wrth y Polisi Gosod Cyffredin.