4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 476 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Chwefror 2023 i Medi 2023.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Chwefror a Medi 2023 i'w gadarnhau a nodwyd y newidiadau canlynol:-
Eitemau newydd
· Eitem 3 – Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror, 2023;
· Eitem 7 – Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/2023 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023;
· Eitem 21 – Strategaeth Gwella Canol Trefi Môn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2023;
· Eitem 22 – Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2023;
· Eitem 23 – Cynllun Rheoli Cyrchfan – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2023;
· Eitem 25 – Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Cymraeg 2022/2023 - Penderfyniad Dirprwyedig;
· Eitem 32 – Cyfrifon Terfynol Drafft 2022/2023 a defnyddio Balansau a Chronfeydd Wrth Gefn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod Gorffennaf, 2023;
Eitemau rheolaidd ar gyfer cyfarfod mis Medi, 2023
· Eitem 34 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 1, 2023/2024;
· Eitem 35 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw, Chwarter 1, 2023/2024;
· Eitem 36 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 1, 2023/2024
· Eitem 37 – Adroddiad Monitro’r Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 1, 2023/2024.
Ers cyhoeddi'r Rhaglen Waith ystyrir yr eitem ar Ffioedd Cartrefi Gofal Annibynnol y Sector 2023/2024 yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 14 Chwefror, 2023.
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaraf y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi, 2023.