Mater - cyfarfodydd

The Executive's Forward Work Programme

Cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 4)

4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 476 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Chwefror 2023 i Medi 2023.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Chwefror a Medi 2023 i'w gadarnhau a nodwyd y newidiadau canlynol:-

 

Eitemau newydd

 

·           Eitem 3 – Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror, 2023;

·           Eitem 7 – Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/2023 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023;

·           Eitem 21 – Strategaeth Gwella Canol Trefi Môn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2023;

·           Eitem 22 – Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2023;

·           Eitem 23 – Cynllun Rheoli Cyrchfan – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2023;

·           Eitem 25 – Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Cymraeg 2022/2023 - Penderfyniad Dirprwyedig;

·           Eitem 32 – Cyfrifon Terfynol Drafft 2022/2023 a defnyddio Balansau a Chronfeydd Wrth Gefn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod Gorffennaf, 2023;

 

Eitemau rheolaidd ar gyfer cyfarfod mis Medi, 2023

 

·           Eitem 34 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 1, 2023/2024;

·           Eitem 35 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw, Chwarter 1, 2023/2024;

·           Eitem 36 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 1, 2023/2024

·           Eitem 37 – Adroddiad Monitro’r Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 1, 2023/2024.

 

Ers cyhoeddi'r Rhaglen Waith ystyrir yr eitem ar Ffioedd Cartrefi Gofal Annibynnol y Sector 2023/2024 yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 14 Chwefror, 2023.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaraf y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi, 2023.