7 Adroddiad Ymgysylltu ac Ymgynghori: Cynllun y Cyngor Drafft (2023-2028) PDF 3 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghori wedi'i chynnal mor gynhwysfawr â phosibl yn ystod 2022;
· Bod swyddogion mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Gwaith yn datblygu Cynllun y Cyngor drafft ymhellach yn dilyn y broses ymgynghori yn barod i’w fabwysiadu yn ystod gwanwyn 2023.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar Gynllun Drafft y Cyngor 2023 – 2028 i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.
Cyflwynodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn benllanw ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori gyda staff, trigolion, partneriaid a rhanddeiliaid. Mae’r ymarfer ar y gweill ers dechrau blwyddyn galendr 2022 pan gynhaliodd y Cyngor ei ymarfer ymgysylltu cychwynnol. Bu'r Cyngor yn ymgynghori ar ei flaenoriaethau strategol am gyfnod o 8 wythnos. Mae’r blaenoriaethau strategol hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad. Cafwyd dros 2,500 o ymatebion ar bob math o weithgaredd yn ystod y flwyddyn. Mae’r Adroddiad Ymgysylltu ac Ymgynghori sy'n amlinellu'r canfyddiadau wedi’i gynnwys yn Atodiad B o'r adroddiad. Dywedodd fod 8 o bob 10 o'r ymatebwr yn cytuno â blaenoriaethau strategol y Cyngor.
Yn ôl y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad mae'n ofyniad statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 a Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod awdurdodau lleol yn hyrwyddo cyfraniad trigolion o fewn yr ymarfer ymgynghori.
Rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 19 Ionawr, 2023 y Pwyllgor lle derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid gan y Pwyllgor. Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.
Penderfynwyd:-
· Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghori wedi'i chynnal mor gynhwysfawr â phosibl yn ystod 2022;
· Bod Swyddogion mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Gwaith, yn datblygu ymhellach Gynllun drafft y Cyngor yn dilyn y broses ymgynghori yn barod i’w fabwysiadu yn ystod Gwanwyn 2023.