8 Costau Byw - Cynllun Dewisol (Cam 2) PDF 602 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Ehangu’r cyllid a gytunwyd yn flaenorol o dan gam 1 i ddarparu cymorth gyda chostau tai ar gyfer pobl sydd yn symud o lety dros dro drwy ddarparu grantiau i aelwydydd gydag anghenion tai (prynu a gosod lloriau a charpedi, costau dodrefnu, bwyd a dyledion rhent) lle nad ydynt yn deilwng am gymorth o dan y cynllun Taliad Dewisol at Gostau Tai – gweler paragraff 2.3.4.
· Cymeradwyo’r prosiectau cam 2 ychwanegol a nodir yn Atodiad 1, paragraff 4.
· Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol i ddod o hyd i partner lleol / sefydliad(au) addas a all barhau i ddarparu’r cymorth gyda chostau byw drwy’r cynlluniau a sefydlwyd gan y Cyngor tu hwnt i 31 Mawrth 2023, ac awdurdodi trosglwyddo unrhyw arian sydd dros ben i’r sefydliad a nodir, os na ddefnyddir y cyllid i gyd erbyn diwedd Mawrth 2023.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y Cynllun Dewisol Costau Byw - Cam 2 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan ddweud fod y prif gynllun costau byw yn golygu bod tua 23,000 o aelwydydd wedi derbyn grant o £150 o fewn y Bandiau Treth Cyngor A i D. Rhoddodd Cam 1 y Cynllun Dewisol gymorth ychwanegol i grwpiau bregus eraill nad oeddent yn gymwys i gael cymorth o dan y prif gynllun. Mae angen defnyddio'r cyllid o fewn Cam 2 y cynllun erbyn 31 Mawrth, 2023 a phenderfynwyd rhoi cyllid i drigolion Ynys Môn â chyflyrau iechyd a thrigolion sy'n defnyddio olew gwresogi domestig i wresogi eu cartrefi gan nad ydynt wedi derbyn cymorth yn ystod y cynllun dewisol costau byw.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y
Y Cynllun Dewisol wedi bod yn fodd i ddosbarthu’r arian i grwpiau y mae'r Cyngor yn ystyried bod angen cymorth arnynt. Dywedodd os oes unrhyw berson o'r farn eu bod yn gymwys ar gyfer cyllid o'r fath dylid cysylltu â Chanolfan J E O'Toole yng Nghaergybi neu'r CAB.
Penderfynwyd:-
· Ehangu’r cyllid y cytunwyd yn flaenorol arno o dan gam 1 i ddarparu cymorth gyda chostau tai ar gyfer pobl sydd yn symud o lety dros dro drwy ddarparu grantiau i aelwydydd gydag anghenion tai (prynu a gosod lloriau a charpedi, costau dodrefnu, bwyd a dyledion rhent) lle nad ydynt yn deilwng am gymorth o dan y cynllun Taliad Dewisol at Gostau Tai – gweler paragraff 2.3.4.
· Cymeradwyo’r prosiectau cam 2 ychwanegol a nodir yn Atodiad 1, paragraff 4.
· Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol i ddod o hyd i bartner / sefydliad(au) lleol addas a all barhau i ddarparu’r cymorth gyda chostau byw drwy’r cynlluniau a sefydlwyd gan y Cyngor tu hwnt i 31 Mawrth 2023, ac awdurdodi’r cam o drosglwyddo unrhyw arian sydd dros ben i’r sefydliad a nodir, os na ddefnyddir y cyllid i gyd erbyn diwedd Mawrth, 2023.