Mater - cyfarfodydd

Care Inspectorate Wales Post-Insoection Action Plan - Performance Evaluation Inspection

Cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Adroddiad Arolygiad Gwerthuso Perfformiad (AGP) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn pdf eicon PDF 1018 KB

Cyflwyno adroddad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a nodi adroddiad AGC ar yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o Wasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Cyfarwyddwr Cymdeithasol sy'n darparu Arolygiad Gwerthuso Perfformiad (AGP) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid fod yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, sef Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 10 – 14 Hydref, 2022, fel rhan o'u Harolygiad Gwerthuso Perfformiad (AGP) arferol.  Nododd fod yr adroddiad i'w groesawu gan fod AGC wedi nodi cryfderau, arferion da a datblygiadau ac nad oedd yn tynnu sylw at unrhyw feysydd o risg sylweddol na materion diogelu.  Mae AGC wedi nodi bod yr Awdurdod wedi dangos brwdfrydedd a pharodrwydd amlwg i weithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid a'r trydydd sector ynghyd â gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor.  Dywedodd ymhellach fod negeseuon cyson, cadarnhaol gan y gweithlu o ran ansawdd arweinyddiaeth a diwylliant ar draws gwasanaethau plant ac oedolion.   Dywedodd ymhellach ei fod yn falch bod AGC wedi cydnabod y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol y mae'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chael.

 

Ailadroddodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion y sylwadau a wnaed gan Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid gan groesawu'r adroddiad cadarnhaol gan AGC ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd ymhellach y dylid sicrhau, yn

sgîl heriau ariannol, fod y gefnogaeth yn parhau er mwyn hybu’r

gwelliannau ymhellach ar draws gwasanaethau plant ac oedolion. Diolchodd i staff gwasanaethau Plant ac Oedolion am eu gwaith.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn gwerthfawrogi bod adroddiad AGC yn adroddiad cadarnhaol ar wasanaethau Plant ac Oedolion ac yn enwedig yn ystod y pwysau aruthrol ar y Sector Gofal, yr argyfwng costau byw a'r pwysau ar y gweithlu i fynd i'r afael â'r materion hyn.    Nododd fod yna rai meysydd wedi eu hamlygu o fewn yr adroddiad y mae angen mynd i'r afael â nhw, fodd bynnag, roedd y materion hyn yn cael eu hystyried o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Pwyllgor Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ystyried maes o law. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 19 Ionawr, 2023 y Pwyllgor lle trafodwyd Adroddiad Arolygiad Gwerthuso Perfformiad AGC, a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi cael adroddiad cadarnhaol ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Diolchodd yr aelodau i holl staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac roeddent am gydnabod eu hymroddiad a'u gwaith da. Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, argymhellwyd nodi cynnwys adroddiad Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru ac argymell y camau arfaethedig yn sgil yr arolygiad i'r Pwyllgor Gwaith eu mabwysiadu.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd am ddiolch i staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith.  Dywedodd ei bod yn falch bod yr adroddiad wedi cydnabod bod y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol y mae'r adran wedi ei chael wedi cyfrannu at y gwelliant o fewn y gwasanaeth ers 2016.  Dymunai ddiolch hefyd i'r adrannau Cyllid,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5