Mater - cyfarfodydd

Section 6 Biodiversity Duyt, Environment Wales Act 2016

Cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion a nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn am sêl bendith y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth i’w ystyried.

 

Cyflwynodd Aelod Portffolio Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Newid Hinsawdd yr adroddiad gan ddweud mai pwrpas yr adroddiad yw datgan beth mae'r Awdurdod wedi'i wneud i gydymffurfio â dyletswydd Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2022.  Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i lunio Cynllun Bioamrywiaeth ar eu nodau a'u hamcanion bob tair blynedd.  Dywedodd fod yna brosiectau arloesol yn cael eu cynnal ar yr Ynys.  Mae Cynllun Bioamrywiaeth wedi’i gynnal ar hen safle tirlenwi Clegir Mawr, Gwalchmai a chynllun plannu coed yn safle tirlenwi Penhesgyn.

 

Dywedodd Rheolwr Cynllunio a’r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol, fod gwaith sylweddol wedi ei wneud ar safleoedd Penhesgyn a Chlegir Mawr a oedd yn cynnwys plannu 24,000 o goed gyda'r bwriad o wella amodau i fioamrywiaeth ffynnu o fewn y safleoedd hyn.  Dywedodd nad oedd rhai camau a osodwyd yng Nghynllun Bioamrywiaeth y Cyngor wedi eu bodloni, ond mae'r adroddiad yn cynnig argymhellion ynghylch sut y dylid cyflawni'r rhain.  Mae angen cynnwys Astudiaeth Achos ychwanegol yn ymwneud â'r gwaith ym Mhenhesgyn, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, o fewn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r argymhellion ynddo.