Mater - cyfarfodydd

Shared Prosperity Fund Programme - Governance Arrangements

Cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Trefniadau Llywodraethiant - Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Portffolio Datblygiad Economaidd a Phrosiectau Mawr a Chyllid, ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Gwaith, a allai fod yn ofynnol mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar Ynys Môn (ar gyfer cyfnod y cyllid).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn am sêl bendith y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â darparu Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i'w ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth fod disgwyl i lywodraeth leol, wrth ddatblygu'r rhaglen, ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys y trydydd sector a’r gymuned fusnes a rhoi cyfleoedd i sefydliadau sicrhau adnoddau o'r rhaglen i gyflawni yn erbyn ei blaenoriaethau.  Dywedodd ymhellach y bydd Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol ar gyfer y rhaglen.  Cyfeiriodd hefyd at raglen Ffyniant Bro yng Nghaergybi a'r gwaith a wnaed gan yr Awdurdod ynghyd â sefydliadau sy’n bartneriaid yng Nghaergybi. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod Llywodraeth y DU bellach wedi lansio'r Gronfa Ffyniant Bro fel rhaglen a fydd yn cael ei hariannu’n

ddomestig, i ddisodli’r cyllid strwythurol blaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd..  Dywedodd ymhellach fod yr arian o'r Gronfa yn £16m gyda £3m o'r gronfa honno tuag at raglen Lluosi. 

 

PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i'r Arweinydd mewn ymgynghoriad â Deiliaid Portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr a Chyllid, ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Gwaith, a allai fod yn ofynnol mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar Ynys Môn (ar gyfer cyfnod y cyllid).