Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 11/01/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 HHP/2022/230 – Dinas Bach, 5 Y Fron, Aberffraw

HHP/2022/230

 

7.2 FPL/2022/215 – Capel Bach, Rhosybol

FPL/2022/215

 

7.3  FPL/2022/195 – Pendref, Llanfairynghornwy

FPL/2022/195

 

7.4  DIS/2022/63 - Hen Safle Roadking,

Parc Cybi, Caergybi

DIS/2022/63

 

7.5  FPL/2022/172 – Eirianallt Goch, Carmel

FPL/2022/172

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 HHP/2022/230 - cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Ninas Bach, 5 Ystâd y Fron, Aberffraw

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau Cynllunio yn yr adroddiad. 

 

7.2 FPL/2022/215 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau ynghyd â chadw'r gwaith ail wynebu yng Nghapel Bach, Rhosybol

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.3 FPL/2022/195 - Cais llawn i godi tyrbin gwynt 5kw, 14.5m o uchder ym Mhendref, Llanfairynghornwy

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

7.4 DIS/2022/63 – Cais i ryddhau amod (05)(tirwedd) (08)(arwyddion) (16)(asesiad risg lliniaru) o ganiatâd

cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog mewn perthynas â rhyddhau amod (05) (tirwedd) ac amod (08) (arwyddion).

 

7.5 FPL/2022/172 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd, addasu ac ehangu adeilad allanol presennol i fod yn annedd menter wledig ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd yn Fferm Eirianallt Goch, Carmel, Llanerchymedd

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd ac awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau cynllunio ar y caniatâd fel y bo’n briodol. 

Cofnodion:

7.1      HHP/2022/230 – cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Ninas Bach, 5 Ystâd y Fron, Aberffraw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd 7 Rhagfyr, 2022, penderfynodd y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd credwyd bod y cais yn groes i Bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol oherwydd ei effaith ar fwynder yr eiddo preswyl cyfagos o ganlyniad i agosrwydd y datblygiad a diffyg cydymffurfiaeth gyda’r lleiafswm pellter mynegol a nodwyd yn y Canllawiau Cynllunio Atodol, ac oherwydd problemau parcio.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod adroddiad y Swyddog yn ymdrin â’r rhesymau a ddefnyddiwyd fel sail penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn ei gyfarfod blaenorol. Mewn perthynas â’r effaith ar fwynder, cydnabyddir y bydd yr estyniad ochr un llawr 0.8m yn lletach na’r garej presennol, ac felly bydd 0.8m yn agosach at y ffin gyda 4 Y Fron. Fodd bynnag, o ystyried bod elfen o oredrych yn bodoli eisoes rhwng eiddo cyfagos, a bod hynny’n nodwedd arferol wrth fyw mewn ardal breswyl, mae’n rhaid i Swyddogion asesu a fydd y cais yn effeithio’n fwy ar fwynder na’r hyn sy’n digwydd eisoes. Er mwyn atal goredrych, mae’r ymgeisydd wedi cynnig codi ffens goed 1.95m o uchder ar ran o’r ffin, ac er bod hyn yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir, bydd yn rhan amodol o’r cynlluniau. Bydd yr estyniad ochr arfaethedig yn wynebu 4 Y Fron, a bydd yn cynnwys ffenestr ystafell wely, ffenestr ystafell ymolchi a drws sy’n agor i’r ystafell aml-bwrpas; credir bod camau priodol wedi’u cymryd a bod amodau priodol wedi’u gosod h.y. codi ffens a defnyddio gwydr aneglur i warchod preifatrwydd a mwynderau 4 Y Fron. Credir y bydd y mesurau hyn yn atal goredrych rhwng y ddau eiddo, gan warchod preifatrwydd a mwynderau eiddo cymdogion yn unol â Pholisi PCYFF 2.

 

Mewn perthynas â pharcio, gan fod yr eiddo’n cynnwys pedair ystafell wely, mae’n rhaid darparu tri man parcio er mwyn cydymffurfio â gofynion yr Awdurdod Priffyrdd, Mae’r cynllun safle arfaethedig yn dangos tri man parcio, yn ogystal â mannau ychwanegol ar gyfer mwy o gerbydau os bydd eu hangen, yn unol â safonau parcio polisi TRA 2. Mae’r pryderon a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ynghylch problemau parcio ar ystâd Y Fron yn fater ar wahân ar gyfer yr Awdurdod Priffyrdd, ac ymdrinnir â’r mater ar wahân i’r cais hwn. Nid yw’r  Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar gyfer y cais ar hyn o bryd. Argymhelliad y Swyddog, felly, yw parhau i gymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, pe byddai’r Pwyllgor yn glynu wrth ei benderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, efallai y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor gyfiawnhau’r penderfyniad mewn apeliad a allai arwain at gostau.

 

Wrth siarad fel Aelod Lleol, cwestiynodd y Cynghorydd Arfon Wyn a oedd unrhyw beth wedi newid ers gwrthod y cais yn y cyfarfod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7