14 Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd PDF 365 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.
· I ddiwygio’r Cyfansoddiad er mwyn diddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y
· Cyd a sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ac i ddirprwyo i’r Swyddog
Monitro yr hawl i weithredu’r newidiadau yna.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i'r Cyngor ei gymeradwyo.
Dywedodd Aelod Portffolio Cynllunio a Newid Hinsawdd fod penderfyniad wedi ei wneud gan Gyngor Môn a Gwynedd i derfynu'r cytundeb cydweithredu ar faterion polisi cynllunio ar 31 Mawrth, 2023. Bydd yn rhaid i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd presennol gael ei ddiddymu a bydd angen i'r awdurdodau perthnasol wneud trefniadau newydd i gyfrannu tuag at greu Cynllun Datblygu Lleol newydd a gwaith cynllunio cysylltiedig.
Penderfynwyd:-
· Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.
· Diwygio'r Cyfansoddiad i ddiddymu'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a dirprwyo pwerau i'r Swyddog Monitro i weithredu'r newidiadau yma.