Mater - cyfarfodydd

New Plannning Policy Arrangements

Cyfarfod: 09/03/2023 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 14)

14 Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·       Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.

·       I ddiwygio’r Cyfansoddiad er mwyn diddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y

·       Cyd a sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ac i ddirprwyo i’r Swyddog

Monitro yr hawl i weithredu’r newidiadau yna.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i'r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cynllunio a Newid Hinsawdd fod penderfyniad wedi ei wneud gan Gyngor Môn a Gwynedd i derfynu'r cytundeb cydweithredu ar faterion polisi cynllunio ar 31 Mawrth, 2023.  Bydd yn rhaid i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd presennol gael ei ddiddymu a bydd angen i'r awdurdodau perthnasol wneud trefniadau newydd i gyfrannu tuag at greu Cynllun Datblygu Lleol newydd a gwaith cynllunio cysylltiedig. 

 

Penderfynwyd:-

 

·      Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.

·      Diwygio'r Cyfansoddiad i ddiddymu'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a dirprwyo pwerau i'r Swyddog Monitro i weithredu'r newidiadau yma.