10 Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned - Ffioedd a Thaliadau 2023/24 PDF 654 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad, sef :-
Haen 1 Analog – bydd pawb yn talu £55.90 y chwarter;
Haen 2 a 3 Analog – bydd pawb yn talu £111.41 y chwarter;
Haen 1 Digidol – bydd pawb yn talu £71.50 y chwarter;
Haen 2 a 3 Digidol – bydd pawb yn talu £142.48 y chwarter.
· Y Taliadau Teleofal Blynyddol, fel yr amlinellir yn Nhabl B, sef:-
Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £133.18;
Gwasanaethau’n unig £86.08;
Costau gosod unwaith ac am byth £53.25.
· Cyfradd o £14.50 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol.
· Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd ym mharagraff 5.
· Cynnydd o 10.57% i £41.55 yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol.
· Cynnydd o £1.55 yr awr mewn ffioedd Gofal Cartref i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd.
· Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C, sef :-
Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £7.25;
Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.05;
Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.70
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod lefel ar gyfer ffioedd gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2023/24.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, mai'r arferiad yw adolygu'r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref bob blwyddyn i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae'r adroddiad yn nodi'r ffioedd a'r taliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 ar gyfer gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Penderfynwyd cymeradwyo'r canlynol –
· Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl A yn yr adroddiad, sef:
Haen 1 Analog – bydd pawb yn talu £55.90 y chwarter;
Haen 2 a 3 Analog – bydd pawb yn talu £111.41 y chwarter;
Haen 1 Digidol – bydd pawb yn talu £71.50 y chwarter;
Haen 2 a 3 Digidol – bydd pawb yn talu £142.48 y chwarter
· Y Taliadau Teleofal Blynyddol, fel yr amlinellir yn Nhabl B:
Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £133.18
Gwasanaethau yn unig £86.08
Costau gosod unwaith ac am byth £53.25
· Cyfradd o £14.50 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
· Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd.
· Cynnydd o 10.57% i £41.55 yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol.
· Cynnydd o £1.55 yr awr mewn ffioedd Gofal Cartref i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd.
· Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C:-