Mater - cyfarfodydd

Local Authority Homes for Older People - Setting the Standard Charge 2023/24

Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu Ffi Safonol 2023/24 pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30 yr wythnos

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod lefel Ffi Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol am y flwyddyn Ebrill, 2023 i Fawrth, 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio  Gwasanaethau Oedolion ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol o dan Adran 22 Deddf Cymorth Cenedlaethol 1948, bennu’r ffi safonol ar gyfer eu cartrefi.  Cyfeiriodd at y sail ar gyfer cyfrifo'r Ffi Safonol fel yr amlinellir yn y tabl o fewn yr adroddiad a oedd yn dangos amcangyfrif o’r gost fesul preswylydd yr wythnos am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 sef £863.30. Yr argymhelliad yw codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cynnydd chwyddiant o 7.71% yn llai na'r hyn a ganiateir i ddarparwyr sector annibynnol.

Penderfynwyd codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30 yr wythnos.