Mater - cyfarfodydd

Capital Budget 2023/23

Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 15)

15 Cyllideb Gyfalaf 2023/24 pdf eicon PDF 587 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y

Rhaglen Gyfalaf ganlynol ar gyfer 2023/24:

 

                                                              £’000

 

Cynlluniau 2022/23 a

Ddygwyd Ymlaen                                12,373

Adnewyddu / Amnewid Asedau           5,682

Prosiectau Cyfalaf Un Tro Newydd        386

Ysgolion yr 21ain Ganrif                         5,964

Cyfrif Refeniw Tai                                 13,557

 

Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a

Argymhellir 2023/24                              37,962

                                                           

 

Cyllidir Drwy:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                      3,410

Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol   2,158

Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion

21ain Ganrif                                               919

Benthyca Digefnogaeth Ysgolion

Yr 21ain Ganrif                                        2,797

Arian Wrth Gefn y CRT a’r Gwarged                                        

yn ystod y flwyddyn                               9,221

Benthyca Digefnogaeth CRT                       0

Derbyniadau Cyfalaf                                 500

Grantiau Allanol                                     6,584

Cyllid 2022/23 a Ddygwyd Ymlaen     12,373

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf                     37,962

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Cyllideb Gyfalaf o £37.962 miliwn ar gyfer 2023/24 yn cael ei chynnig yn cynnwys cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2022/23, adnewyddu/newid asedau presennol, prosiectau untro newydd, y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a'r Cyfrif Refeniw Tai i'w hariannu o gyfuniad o'r Grant Cyfalaf Cyffredinol, benthyciadau â chymorth a derbyniadau cyfalaf fel yr amlinellir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad. Dangosir y rhaglen gyfalaf arfaethedig fanwl olaf yn Atodiad 2 yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran151, pan fydd yr adroddiad alldro cyfalaf ar ddiwedd Chwarter 4 2022/23 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith, bydd unrhyw symiau llithriad y gofynnwyd iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2023/24 yn

destun cymeradwyaeth y Pwyllgor hwn ar yr adeg honno. Hefyd gellir sicrhau bod grantiau cyfalaf ychwanegol ar gael ac yn cael eu cynnwys wedi hynny o fewn y gyllideb gyfalaf sy'n golygu bod y gyllideb a'r rhaglen fel y'i cyflwynir yn fan cychwyn a bydd yn cael ei diwygio a'i diweddaru i adlewyrchu unrhyw gyllid ychwanegol a gafwyd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o gyfarfod y Pwyllgor ar 28 Chwefror, 2023 y cyflwynwyd cyllideb a rhaglen gyfalaf 2023/24 iddi, a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r rhaglen gyfalaf a’r cynlluniau arfaethedig yng nghyd-destun yr arian cyfalaf cyfyngedig ar gael ar gyfer y gronfa gyffredinol a’i fod wedi gofyn am eglurhad gan y Swyddogion a'r Aelod Portffolio ynghylch sut mae'r cynnig hwnnw’n hwyluso’r gwaith o sicrhau’r blaenoriaethau tymor canolig y Cyngor gan gydbwyso pwysau tymor byr yn ogystal â'r graddau y gall y Cyngor benderfynu ar ei flaenoriaethau a'i wariant cyfalaf ei hun.  Ar ôl cael sicrwydd a chyngor ar y materion hynny, ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor argymell y gyllideb gyfalaf arfaethedig o £37.962m i'r Pwyllgor Gwaith. 

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd ynghylch y gostyngiad mewn adnoddau cyfalaf sy'n cyfyngu ar yr hyn y mae'r Cyngor yn gallu ei gyflawni o ran buddsoddi cyfalaf a phrin yn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a bod angen felly cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid cyfalaf, cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod gyda rheoleiddwyr yn gynharach yn yr wythnos pan godwyd y mater hwn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y rheoleiddwyr wedi cael cais i uwchgyfeirio'r mater o gyllid cyfalaf digonol i lefel genedlaethol gan ddweud hefyd, er bod y ffocws wedi bod yn bennaf ar wariant refeniw, bod buddsoddi yn asedau'r Cyngor a chynnal a chadw'r adeiladau y mae gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu darparu ohonynt yr un mor bwysig. Mae llawer o stoc adeiladau'r Cyngor wedi'i ddyddio ac angen eu huwchraddio gyda nifer o adeiladau ddim yn diwallu anghenion trigolion Môn yn y ffordd y byddai'r Cyngor yn dymuno. Hefyd mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 15