Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Cymeradwyo oedi dyddiad gweithredu’r cynnig, sef i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn” i 1 Medi, 2024.
· Yn amodol ar yr uchod, bydd Swyddogion yn hysbysu’r “partïon perthnasol” o’r penderfyniad i ohirio dyddiad gweithredu’r cynnig ar gyfer Ysgol Y Graig.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ohirio dyddiad gweithredu’r hysbysiad statudol ar gyfer Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.
Eglurwydy cefndir gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg, sef cyhoeddi’r hysbysiad statudol i gau Ysgol Talwrn ac i gynyddu maint Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, gyda’r dyddiad gweithredu ar gyfer y bwriad yn 1. Medi, 2023. Cyfeiriodd at y ffactorau niferus, a restrwyd yn yr adroddiad, oedd wedi peri gohirio’r dyddiad dechrau, gan gynnwys proses prynu tir a chaniatâd cynllunio hwy na'r disgwyl; cyfyngiadau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a chyflawni gwaith archeolegol ar y safle. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno mai dyddiad gweithredu gwreiddiol y rhybudd statudol oedd 1 Medi, 2023 ond, oherwydd y rhesymau a amlinellwyd, gofynnwyd i ymestyn y cyfnod am 12 mis i 1 Medi, 2024. Yn unol â hynny, fel cynigydd y bwriad yn y rhybudd statudol, roedd angen i Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ohirio'r dyddiad gweithredu.