Mater - cyfarfodydd

Ymweliad Safleoedd

Cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 4)

4 Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynywd cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 yn gywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod wedi gofyn am gael gweld fideo o’r ymweliad safle corfforol a gynhaliwyd yn Lôn Penmynydd, Llangefni yn dilyn yr ymweliad safle. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod y fideo wedi ei rhoi ar TEAMS i aelodau’r Pwyllgor edrych arni. Dywedodd y Cynghorydd Williams nad oedd yn gallu dod i hyd i’r recordiad ac awgrymodd y dylid amlygu recordiadau yn well ar TEAMS yn y dyfodol ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor.