Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – FPL/2022/60 – Cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

FPL/2022/60

 

7.2 – FPL/2022/173 - Lon Penmynydd, Llangefni

FPL/2022/173

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig a'r safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

 

      Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

7.2  FPL/2022/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i leoli 32 caban gwyliau, gosod adeilad derbynfa, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffyrdd newydd ar y safle a mannau parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Lôn Penmynydd, Llangefni

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod y cais yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 3ac nad oedd yr adroddiad ecoleg wedi cyfeirio at yr effaith ar gynefin y Wiwer Goch yn yr ardal.  

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig I’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais. 

Cofnodion:

7.1  FPL/2022/60 – Cais llawn ar gyfer codi 14 annedd ynghyd â chreu lôn fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John I Jones y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol pellach ar y wybodaeth a dderbyniwyd ynghylch diogelwch cerddwyr a gwybodaeth priffyrdd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn gais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysgol Gynradd Niwbwrch yn Stryd Pendref. Mae’r tir wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch, fel y caiff ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r cynnig yn cynnwys tai pâr, teras o bedwar tŷ a fflatiau a bydd gan yr holl unedau lefydd parcio dynodedig ac ardaloedd amwynder preifat. Ni fydd llecyn agored cyhoeddus yn cael ei ddarparu ar y safle, ond, serch hynny, bydd angen darparu cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae anffurfiol a mannau chwarae gydag offer i blant, a gosodir amod cynllunio i sicrhau hynny. Ychwanegodd fod y safle o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch, fel y caiff ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, a dyma safle’r hen ysgol gynradd, felly gellir ystyried y cynnig o dan bolisi cynllunio TAI 3. Mae maen prawf (3) ym Mholisi PCYFF 2 yn ceisio sicrhau fod cynigion yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir, gan gynnwys cyflawni dwysedd o ddim llai na 30 uned dai yr hectar ar gyfer datblygiad preswyl. Tua 35 uned yr hectar yw dwysedd y cynnig hwn ac mae’n cydymffurfio â gofynion y Polisi. Gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Adran Dai y Cyngor Sir, bydd 100% o’r datblygiad yn dai fforddiadwy ac mae hynny’n cydymffurfio â gofynion polisi TAI 15. 40 uned yw’r cyflenwad dangosol ar gyfer Niwbwrch yn ystod cyfnod y Cynllun (2011 – 2021) ac mae cyfanswm o 21 uned wedi’u cwblhau. Golyga hyn nad oes digon o gapasiti yn y cyflenwad dangosol ar gyfer Niwbwrch ar hyn o bryd a rhaid i’r ymgeisydd gyfiawnhau’r angen am y datblygiad hwn. Cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth ychwanegol i brofi’r angen am y datblygiad hwn yn yr ardal. Cynhaliwyd Arolwg o’r Angen am Dai ac mae’r gymysgedd arfaethedig yn mynd i’r afael â’r angen a nodwyd yn yr arolwg hwnnw. Gan y byddai’r cynnig hwn yn arwain at safle ar hap ar gyfer datblygiad tai ar raddfa fawr, yn unol â maen prawf (2) o bolisi cynllunio PS1, mae angen cyflwyno asesiad o’r effaith ar yr iaith Gymraeg i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Ystyrir y bydd yr effaith ar y Gymraeg yn gymharol fychan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7