12 Gweddill y Ceisiadau PDF 14 MB
12.1 – MAO/2022/27 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
12.2 – ADV/2023/1 - Tŵr Gwylio Amlwch, Amlwch.
12.3 – ADV/2023/2 - Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch
12.4 – ADV/2023/3 - Maes Parcio'r Prif Sgwar, Amlwch
12.5 – ADV/2023/4 – Mynydd Parys, Amlwch
12.6 – HHP/2022/342 - Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll
12.7 – HHP/2022/244 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech
12.8 – FPL/2021/231 - Tîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll
12.9 – TPO/2022/24 - Parc Twr, Llanfairpwll
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 MAO/2022/27 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatád cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio y cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.2 ADV/2023/1 – Cais ar gyfer amnewid arwydd dehongli yn Tŵr Gwylio Amlwch, Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.3 ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.4 ADV/2023/3 – Cais ar gyfer amnewid arwydd dehongli yn Maes Parcio'r Prif Sgwâr , Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.5 ADV/2023/4 - Cais i leoli 2 arwydd heb eu goleuo yn Mynydd Parys, Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.6 HHP/2022/342 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol am y rhesymau a roddwyd.
12.7 HHP/2022/244 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd a chodi anecs 2 lawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech
Cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.8 FPL/2021/231 - Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro Hawl Tramwy Cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar Dîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairwll
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.
12.9 TPO/2022/24 - Cais i wneud gwaith ar goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed yn Parc Twr, Llanfairpwll
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
Cofnodion:
12.1 MAO/2022/27 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod, fel y noda adroddiad y swyddog, yn un ar gyfer gwneud mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd gan y Pwyllgor wrth ystyried cais cynllunio FPL/2021/337 yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2022.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, ar ôl ystyried maint y datblygiad a ganiatawyd, ynghyd â maint bychan y newidiadau arfaethedig, y bernir ei bod yn dderbyniol ymdrin â’r newidiadau drwy gyfrwng cais am ddiwygiadau ansylweddol.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 ADV/2023/1 – Cais i osod arwydd dehongli newydd yn Nhŵr Gwylio Amlwch, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gynnig am ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ger y Tŵr Gwylio yn Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn briodol i sicrhau y bydd yn gweddu â’r ardal ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd nac ar yr Ardal Gadwraeth ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn y Maes Parcio Uchaf, Stryd y Cei Uchaf, Porth Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth yn y maes parcio cyhoeddus yn Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn addas i sicrhau ei fod yn gweddu â’r safle ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd, llwybrau troed na’r ardal gyfagos ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 ADV/2023/3 – Cais am arwydd dehongli newydd ym maes Parcio’r Prif Sgwâr, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ym Maes Parcio’r Prif Sgwâr a leolir ar Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae ei ddyluniad a’i faint yn addas i sicrhau y bydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12