Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 14 MB

12.1 – MAO/2022/27 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

MAO/2022/27

 

12.2 – ADV/2023/1 - Tŵr Gwylio Amlwch,  Amlwch.

ADV/2023/1

 

12.3 – ADV/2023/2 - Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch

ADV/2023/2

 

12.4 – ADV/2023/3 - Maes Parcio'r Prif Sgwar, Amlwch

ADV/2023/3

 

12.5 – ADV/2023/4 – Mynydd Parys, Amlwch

ADV/2023/4

 

12.6 – HHP/2022/342  - Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

HHP/2022/342

 

12.7 – HHP/2022/244 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

HHP/2022/244

 

12.8 – FPL/2021/231 - Tîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

FPL/2021/231

 

12.9 – TPO/2022/24 - Parc Twr, Llanfairpwll

TPO/2022/24

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 12.1  MAO/2022/27 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatád cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio y cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

 

       Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.2  ADV/2023/1 – Cais ar gyfer amnewid arwydd dehongli yn Tŵr Gwylio Amlwch, Amlwch.

 

      Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.3  ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.4  ADV/2023/3 – Cais ar gyfer amnewid arwydd dehongli yn Maes Parcio'r Prif Sgwâr , Amlwch.

 

       Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.5  ADV/2023/4 - Cais i leoli 2 arwydd heb eu goleuo yn Mynydd Parys, Amlwch.

 

       Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.6  HHP/2022/342 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.7  HHP/2022/244 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd a chodi anecs 2 lawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

12.8  FPL/2021/231 - Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro Hawl Tramwy Cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar Dîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairwll

 

      Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

12.9  TPO/2022/24 - Cais i wneud gwaith ar goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed yn Parc Twr, Llanfairpwll

 

       Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

Cofnodion:

12.1  MAO/2022/27 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod, fel y noda adroddiad y swyddog, yn un ar gyfer gwneud mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd gan y Pwyllgor wrth ystyried cais cynllunio FPL/2021/337 yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, ar ôl ystyried maint y datblygiad a ganiatawyd, ynghyd â maint bychan y newidiadau arfaethedig, y bernir ei bod yn dderbyniol ymdrin â’r newidiadau drwy gyfrwng cais am ddiwygiadau ansylweddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  ADV/2023/1 – Cais i osod arwydd dehongli newydd yn Nhŵr Gwylio Amlwch, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gynnig am ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ger y Tŵr Gwylio yn Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn briodol i sicrhau y bydd yn gweddu â’r ardal ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd nac ar yr Ardal Gadwraeth ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn y Maes Parcio Uchaf, Stryd y Cei Uchaf, Porth Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth yn y maes parcio cyhoeddus yn Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn addas i sicrhau ei fod yn gweddu â’r safle ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd, llwybrau troed na’r ardal gyfagos ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  ADV/2023/3 – Cais am arwydd dehongli newydd ym maes Parcio’r Prif Sgwâr, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ym Maes Parcio’r Prif Sgwâr a leolir ar Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae ei ddyluniad a’i faint yn addas i sicrhau y bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12