13.1 – DEM/2023/2 – Pencraig, Llangefni
13.2 – DEM/2023/3 – Pencraig, Llangefni
13.3 – DEM/2023/4 - Maes Hyfryd, Llangefni.
13.4 – DEM/2023/5 - Bro Tudur, Llangefni
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 DEM/2023/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Pencraig, Llangefni, LL77 7LD
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.2 DEM/2023/3 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Pencraig, Llangefni
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.3 DEM/2023/4 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Maes Hyfryd, Llangefni
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.4 DEM/2023/5 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel 28 garejys yn Bro Tudur, Llangefni
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Cofnodion:
13.1 DEM/2023/2 - Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdy ym Mhencraig, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel un modurdy domestig nad yw’n cael ei defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Mhencraig, Llangefni ac ystyrir ei fod yn ddatblygiad a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdy, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.2 DEM/2023/3 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai ym Mhencraig, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 8 modurdy domestig nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Mhencraig, Llangefni ac ystyrir bod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais a rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.3 DEM/2023/4 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai ym Maes Hyfryd, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 10 modurdy domestig nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Maes Hyfryd, Llangefni ac ystyrir fod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.4 DEM/2023/5 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel 28 modurdy ym Mro Tudur, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 28 modurdy domestig sydd wedi dadfeilio nad ydynt yn cael eu defnyddio ym Mro Tudur, Llangefni ac ystyrir bod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13