Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account (HRA) Business Plan

Cyfarfod: 21/03/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053 yn amodol ar wneud diwygiadau bychain i’r manylion ariannol, ac

·      Awdurdodi’r Aelod Portffolio Tai a’r Aelod Portffolio Cyllid i gymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai terfynol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (y CRT) 2023-53 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a Chynllun Busnes y CRT yn ddogfen statudol gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio dros Wasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, gan ddweud bod y Cynllun Busnes yn adlewyrchu gweledigaeth y Cyngor o sicrhau bod gan bawb yr hawl i  alw rhywle yn gartref. Roedd y CRT yn ariannu holl weithrediadau’r Cyngor yn ei rôl fel landlord cymdeithasol cofrestredig ac wedi’i neilltuo i’r diben hwnnw. Roedd yn darparu cynllun ariannol hyfyw ar gyfer stoc tai’r Cyngor. Elfen bwysig o’r CRT oedd yr ymrwymiad i ehangu stoc tai’r Cyngor i gwrdd ag anghenion tai gwahanol ar draws yr Ynys. Fel y dywedodd yr Aelod Portffolio, y Cynghorydd Gary Pritchard, roedd yn falch bod Ynys Môn ymhlith yr ychydig awdurdodau oedd wedi cadw eu stoc tai ac yn mynd ati i ehangu ei stoc drwy adeiladu tai newydd a throsi eiddo gwag yn gartrefi.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod Cynllun Busnes y CRT wedi'i baratoi ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyllid ac y byddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y mis er mwyn sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol y Cyngor o £2.688m ar gyfer 2023/ 24. Dangosai’r Cynllun Busnes sut y deuai’r Cyngor â'i stoc i Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC); sut oedd yn bwriadu gweithio tuag at y SATC newydd a'r buddsoddiad oedd ei angen i ariannu ei raglen newydd i ddatblygu tai cyngor. Erbyn diwedd cyfnod y Cynllun Busnes, byddai stoc tai'r Cyngor wedi cynyddu 25% i dros 5,000 o dai a fyddai’n helpu i ddiwallu'r angen lleol cynyddol am dai. Roedd dros 900 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, yn cynnwys 85 o aelwydydd mewn llety dros dro ar yr Ynys.

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r SATC newydd y byddai Llywodraeth Cymru’n cytuno arno’n fuan ac, i'r perwyl hwnnw, cynhaliodd arolwg o gyflwr ei holl stoc tai yn ystod 2022/23 i sefydlu gwaelodlin wrth baratoi ar gyfer cyrraedd y safonau newydd. Roedd rhaglen gyfalaf o £9.7m ar gyfer 2023/24 wedi'i chynnwys yn y Cynllun Busnes ar gyfer gwaith gwella. Roedd darpariaeth o £6.963m wedi'i chynnwys yn y gyllideb refeniw ar gyfer atgyweiriadau ymatebol ac, yn ogystal, roedd £8.749m wedi'i gyllidebu ar gyfer 2023/24 i raglen ddatblygu tai cyngor newydd a chaffael hen dai cyngor ar yr Ynys. Byddai’r Cyngor, hefyd, yn parhau â’i waith ynni a datgarboneiddio gyda £1m wedi’i glustnodi i dargedu 250 o osodiadau system Solar Ffotofoltaig ar eiddo’r Cyngor. I gyd-fynd â'r Cynllun Busnes, roedd dadansoddiad sensitifrwydd a ddangosai ei gadernid ac, at hyn, roedd y cynllun wedi cael prawf straen i ystyried y risgiau ac i sicrhau ei fod yn parhau'n hyfyw dros y cyfnod 30 mlynedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9