11 Rhannu Swyddi ar y Pwyllgor Gwaith PDF 672 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cytuno i’r newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-
· Caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;
· Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor
Gwaith yn rhannu swydd; a
· Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd;
(a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad,
(b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion
sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn
rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i
roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.
Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol gynnwys trefniadau sy’n galluogi dau neu ragor o gynghorwyr i rannu swydd ar Bwyllgor Gwaith. Tra bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cynnwys darpariaeth i'r Arweinydd rannu swydd ac i ddau neu fwy o Gynghorwyr rannu swydd fel Aelodau Gweithredol: nid oes darpariaeth benodol ar gyfer rhannu rôl y Dirprwy Arweinydd.
PENDERFYNWYD cytuno ir newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-
· caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;
· caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fo aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a
· manylu ar y trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fo aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a:-
(a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad;
(b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
Os bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud drwy drefniadau rhannu swyddi a/neu nifer yr unigolion sy'n derbyn cyflog uwch oherwydd trefniadau rhannu swyddi, bydd y Cyngor yn hysbysu Panel Taliadau Annibynnol Cymru (IRPW) ac yn rhoi cyhoeddusrwydd prydlon i hynny.