Mater - cyfarfodydd

Job Sharing on the Executive

Cyfarfod: 09/03/2023 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 11)

11 Rhannu Swyddi ar y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 672 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cytuno i’r newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-

 

·       Caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;

·       Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor

Gwaith yn rhannu swydd; a

 

·       Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd;

 

     (a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad,

 

     (b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.

 

 

Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion

sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn

rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i

roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol gynnwys trefniadau sy’n galluogi dau neu ragor o gynghorwyr i rannu swydd ar Bwyllgor Gwaith.  Tra bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cynnwys darpariaeth i'r Arweinydd rannu swydd ac i ddau neu fwy o Gynghorwyr rannu swydd fel Aelodau Gweithredol: nid oes darpariaeth benodol ar gyfer rhannu rôl y Dirprwy Arweinydd. 

 

PENDERFYNWYD cytuno ir newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-

 

·           caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;

·           caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fo aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a

·           manylu ar y trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fo aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a:-

 

(a)   yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad;

(b)   unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.

 

Os bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud drwy drefniadau rhannu swyddi a/neu nifer yr unigolion sy'n derbyn cyflog uwch oherwydd trefniadau rhannu swyddi, bydd y Cyngor yn hysbysu Panel Taliadau Annibynnol Cymru (IRPW) ac yn rhoi cyhoeddusrwydd prydlon i hynny.