Mater - cyfarfodydd

Modernising Teaching Communities and Developing Welsh Strategy

Cyfarfod: 21/03/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori fersiwn ddrafft y Strategaeth Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio dros Addysg a’r Gymraeg, gan gyfeirio at uchelgais y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc yr Ynys, beth bynnag fo’u cefndir a’u hamgylchiadau, eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, a bod pob dysgwr yn cael cefnogaeth i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm. Ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol yn 2013, roedd llawer iawn o waith wedi ei wneud i foderneiddio’r stoc ysgolion ar Ynys Môn, gyda thri phrosiect wedi eu cwblhau hyd yma a dau brosiect pellach ar y gweill. Erbyn i’r ddau olaf gael eu cwblhau, byddai’r Cyngor wedi agor pump o adeiladau’r 21ain ganrif mewn pedair ardal, gan gynnwys adeilad sero net cyntaf y Cyngor, adnewyddu ac ehangu dwy ysgol arall a chau 11 o ysgolion bach. Yn ogystal, byddai tua 25% o ddysgwyr cynradd Ynys Môn yn cael eu haddysg mewn adeiladau'r 21ain ganrif erbyn hynny. Roedd y prosiectau a gyflawnwyd hyd yma wedi cael effaith gadarnhaol ar leoedd dros ben yn y sector cynradd ac wedi arwain at arbedion refeniw a dileu costau cynnal a chadw presennol a rhagamcanol. Roedd cynnydd y Cyngor o ran moderneiddio ei drefniadaeth ysgolion wedi’i gydnabod gan Estyn yn ei adroddiad ym mis Mehefin 2022.

 

Siaradodd yr Aelod Portffolio dros Addysg a’r Gymraeg am yr ymrwymiadau ariannu oedd yn gysylltiedig â moderneiddio trefniadaeth ysgolion, gan ddweud bod y Cyngor wedi gorfod cwrdd â gweddill y costau er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 50% tuag at gost prosiectau Band A a 65% tuag at brosiectau Band B. Er bod adeiladu ysgolion newydd, felly, yn ddrud, yn enwedig ar hyn o bryd, o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang, roedd yn bwysig bod y Cyngor yn manteisio ar y cyfle i ddenu cyllid allanol i wella cyflwr stad ei  adeiladau addysg. Roedd cynnydd da wedi ei wneud yn y sector cynradd ond roedd angen gwneud gwaith i fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghyflwr adeiladau ysgolion uwchradd. O’r herwydd, roedd y strategaeth yn rhagweld y byddai angen iddo ailfodelu'r ddarpariaeth uwchradd dros y blynyddoedd nesaf wrth, hefyd, weithredu penderfyniadau anodd eraill.

 

Amlinellwyd yr amcanion oedd yn sail i'r strategaeth gan yr Aelod Portffolio, fel y'u rhestrwyd yn yr adroddiad, a phwysleisiodd fod y Cyngor yn awyddus i ymgynghori ar y strategaeth cyn ei mabwysiadu, fel bod modd ystyried barn rhanddeiliaid a phartneriaid cyn gwneud penderfyniadau pellach ar sut i symud ymlaen gyda’r rhaglen.

 

Eglurwyd y broses ymgynghori arfaethedig a'r amserlen gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a chadarnhaodd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, mai'r bwriad oedd dechrau ymgynghori ar 31 Mawrth, 2023 am gyfnod o saith wythnos tan 18 Mai. Yn dilyn hynny  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8