4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 218 KB
Cyflwyno
adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen
Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru
am y cyfnod Mehefin, 2023 i Ionawr,
2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y
cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd,
i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn
cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod
Mehefin, 2023 i Ionawr, 2024.
Rhoddodd y
Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith a
nodwyd y newidiadau canlynol mewn perthynas â’r Flaen
Raglen Waith–
- Mae
Eitem 7 (Ymateb i’r Her Dai Lleol – Datblygiadau tai
dros 10 uned: Stad Parc y Coed, Llangefni, Cam 4) wedi’i
hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar
27 Mehefin, 2023.
- Mae
Eitem 10 (Cynllun Deisebau) wedi’i hychwanegu fel eitem
newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf,
2023.
- Mae
Eitem 11 (Newid I’r Cyfansoddiad – Ehangu cylch
gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) wedi’i
hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar
18 Gorffennaf, 2023.
- Mae
Eitem 12 (Dogfen Gyflawni Flynyddol 2023/24) wedi’i
hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar
18 Gorffennaf, 2023.
- Mae
Eitem 16 (Adolygu Dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn)
wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y
Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023.
- Mae
Eitem 22 (Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23) wedi’i
hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar
26 Medi, 2023.
- Mae
Eitem 31 (Cynllun Bioamrywiaeth – Cynllun Cynnydd Blynyddol)
wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y
Pwyllgor Gwaith ar 12 Rhagfyr, 2023.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen
Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru
am y cyfnod Mehefin, 2023 i Ionawr,
2024 gyda’r newidiadau a
amlinellwyd yn y cyfarfod.