Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 03/05/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 2 MB

Copio lythyr i Richard Buxton Solicitors er gwybodaeth

 

7.1 – 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

46C427L/COMP

 

7.2 – S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

S106/2020/3

 

7.3 – COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

COMP/2021/1

 

7.4 – FPL/2022/256 – Crown Street, Gwalchmai

FPL/2022/256

 

7.5 – HHP/2022/291 – Monfa, Ffordd Caergybi, Mona

HHP/2022/291

 

7.6 – FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu

FPL/2020/247

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grwp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio gyda Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd nid yw’n glir a yw’r caniatâd wedi’i weithredu ym Mharc Arfordirol Penrhos.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

7.2  S106/2020/3 – Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyniad Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen 8 (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Bond Bwrdd Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a’u cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a disodliad Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyferinod llunio PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am yr un rhesymau a nodwyd yn 7.1 uchod.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

7.3  COMP/2021/1 – Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1; Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1; Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1; Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1; Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1; Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4; Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol o Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1; Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1; Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd gwrthod y cais  ...  view the full Penderfyniad text for item 7

Cofnodion:

Er gwybodaeth i’r Pwyllgor cyflwynwyd copi o lythyr at Richard Buxton Solicitors dyddiedig 28 Mawrth, 2023 gan Burges Salmon LLP a oedd yn mynd i'r afael â materion a godwyd o ran gweithredu caniatâd Land and Lakes o dan gyfeirnod 6C427K/RE/EIA/ECON.

 

7.1  46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio â Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â chyflawni rhwymedigaethau Cytundeb Adran 106 a oedd ynghlwm wrth ganiatâd cais a oedd yn cyd-fynd ag Asesiad Effaith Amgylcheddol.  Fe’i cyfeiriwyd felly at y Pwyllgor i'w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.10 o'r Cyfansoddiad.  Yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2023 penderfynwyd gohirio ystyried y cais.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mrs Hilary Paterson-Jones fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd fod dros 16,000 o bobl sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau Land & Lakes ar gyfer Penrhos yn dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae goblygiadau difrifol i gymuned Ynys Gybi ac Ynys Môn os caniateir torri cymaint o goed, Penrhos yw'r unig goetir sydd gennym. O ganlyniad i ddatblygwyr yn torri coedwigoedd mae tua hanner bywyd anifeiliaid a phlanhigion Cymru wedi diflannu. Rydym mewn Argyfwng Natur. Canfu Cyfoeth Naturiol Cymru fod 6,200 o rywogaethau mewn perygl - mae 3,902 dan fygythiad o ddiflannu, yn benodol yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ers COP15 mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu ei llais dros warchod a rheoli cynefinoedd gwerthfawr fel Penrhos. Mae newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru 6.4 ar wytnwch ecosystemau, coed, coetiroedd ac AHNE wedi cael eu cryfhau. Gofynnwch i chi'ch hun a fydd y budd hwn yn digwydd ym Mhenrhos? Hynny yw, a fydd y canlyniad yn well na'r sefyllfa gychwynnol ar gyfer rhywogaethau ar ôl torri bron i 30 erw o hen goed a choed hynafol?  Er bod gan Gymru gynllun gweithredu adfer natur, eto i gyd rydych chi'n caniatáu i ddatblygwyr amharchu tirwedd treftadaeth Cymru i wneud lle i 500 o gabanau, archfarchnadoedd, bariau, bwytai a phwll nofio trofannol a gosod concrid ar rannau o goetir ar gyfer bron i 1,000 o geir!  Mae gennym dystiolaeth sy’n dangos yr amser a’r dyddiad sy’n profi nad yw gwaith datblygu wedi dechrau yn gyfreithlon gan Land & Lakes ar gyfer eu pentref Hamdden o'r Radd Flaenaf. Nid yw'r gwaith wedi dechrau o fewn yr amser a nodir ar y caniatâd, felly mae’r caniatâd wedi dod i ben, fel y diffinnir yn y Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, sef gosod sylfeini, creu neu adeiladu ffordd a newid sylweddol i adeilad neu dir. Honnir bod y Beili yn 'Ganolfan Ymwelwyr', mae gennym dystiolaeth ffotograffig bod arwyddion yn dal i ddangos bod yr adeilad yn parhau i fod yn 'Glwb Criced Caergybi. Tynnodd Land & Lakes garped o'r ystafell, a symudwyd cadeiriau/meinciau i'r naill  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7