Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 03/05/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n gwyro pdf eicon PDF 692 KB

10.1 FPL/2023/43 – 27 Zealand Park , Caergeiliog

FPL/2023/43

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 10.1  FPL/2023/43 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi annedd newydd ynghyd a creu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger 27 Zealand Park, Caergeiliog, Caergybi

 

      Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn            

      amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

10.1  FPL/2023/43 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger 27 Zealand Park, Caergeiliog, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o ddatblygiad preswyl ar y safle eisoes wedi'i sefydlu drwy ganiatâd cynllunio 32C192 a 32C192A.  Mae Tystysgrif Cyfreithlondeb wedi'i chyhoeddi sy'n cadarnhau bod y gwaith wedi dechrau ar y cynnig sydd wedi sicrhau'r caniatâd.  Cais yw hwn i ddiwygio dyluniad yr eiddo a gymeradwywyd a fydd 700mm yn uwch na'r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol a gydag ôl troed ychydig yn uwch.  Er bod yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol yn debyg i'r tri eiddo a ddatblygwyd yn ddiweddar yr ochr arall i’r llwybr mynediad, bydd y cynnig presennol yn parchu graddfa a chymeriad yr eiddo cyfagos sy’n rhannu

ffin â’r eiddo dan sylw tua gogledd y safle.  Dywedodd ymhellach fod 4 llythyr o wrthwynebiad wedi'u derbyn gan ddeiliaid dau eiddo cyfagos, ni ystyrir y bydd y cynnig yn effeithio ar amwynderau'r eiddo cyfagos.  Mae'r cais yn groes i bolisi cynllunio TAI 4 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ond mae sefyllfa wrth

gefn yn bodoli gan fod y caniatâd eisoes wedi’i roi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.