Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 07/06/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 898 KB

6.1  HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

HHP/2023/51

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1         HHP/2023/51 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

Cofnodion:

6.1 HHP/2023/51 – Cais llawn i ddymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol oherwydd ei fod yn orddatblygiad o’r safle ac yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r cymdogion.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymwelwyd â safle’r cais ar 17 Mai, 2023, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 3 Mai, 2023 i gynnal ymweliad safle. Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol a diwygiadau i’r cynlluniau arfaethedig yn ymwneud â’r cais ar 15 Mai, 2023 a chawsant eu dosbarthu i Aelodau Lleol ac i aelodau'r Pwyllgor yn ystod yr ymweliad safle. Cynhaliwyd ail ymgynghoriad ar 17 Mai, 2023 ac, felly, yr argymhelliad oedd gohirio’r cais yn ystod y cyfnod ymgynghori a chyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod Gorffennaf, 2023 o’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.