Adroddiad Gweithredu Newid Defnydd
Adroddiad Cychwyn y Gwaith a Gymeradwywyd
7.1 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
7.2 COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
7.3 S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
7.4 FPL/2022/256 – Crown Street, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grwp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio gyda Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag
argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad gan felly ryddhau rhwymedigaethau’r Cytundeb Adran 106 y mae’n cyfeirio atynt.
7.2 COMP/2021/1 – Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1; Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1; Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1; Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1; Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1; Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4; Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol o Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1; Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1; Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad gan felly ryddhau rhwymedigaethau’r Cytundeb Adran 106 y mae’n cyfeirio atynt.
7.3 S106/2020/3 – Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyniad Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen 8 (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Bond Bwrdd Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a’u cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a disodliad Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyferinod llunio PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad sef –
Cofnodion:
7.1 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol i gydymffurfio â Thelerau'r Cytundeb fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos (PPALS) fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio cyfeirnod 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn ymwneud â chyflawni rhwymedigaethau Cytundeb Adran 106 ynghlwm wrth ganiatâd cais yr oedd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol wedi’i amgáu gydag o. Felly, fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor iddo benderfynu arno, yn unol â pharagraff 3.5.3.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2023, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan ei fod o’r farn nad oedd yn glir a oedd y caniatâd gwreiddiol (cais cyfeirnod 46C427K/TR/EIA/ECON) wedi’i weithredu’n gyfreithlon am ddau reswm, sef -
Hefyd wedi’u cyflwyno er gwybodaeth i’r Pwyllgor oedd adroddiad Gweithredu Newid Defnydd Pentref Hamdden Penrhos Land and Lakes (Ebrill 2021) ac adroddiad Parc Arfordirol Penrhos ar Ddechrau Gwaith a Gymeradwywyd (Ebrill, 2021).
Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor a oedd yn dymuno ystyried tri chais Land and Lakes (7.1, 7.2 a 7.3 ar yr agenda) fel cais cyfansawdd fel yn ei gyfarfod blaenorol. Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid ystyried y tri chais gyda'i gilydd fel un cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John I. Jones.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ddarllen yn gyhoeddus lythyr gan Lisa Black, Grŵp Achub Penrhos. Dyma oedd yn y llythyr —
“Ar ôl y cyfarfod cynllunio diwethaf ynglŷn â Phenrhos, roeddwn wedi fy nychryn o glywed nad oedd ein cynghorwyr cynllunio yn gyfarwydd â’r dogfennau oedd yn ymwneud â’r gwaith yr ymgymerwyd ag o a olygai bod yna ddechreuad perthnasol a arweiniodd yn y pen draw at ddiogelu’r cais cynllunio am byth. Ac eto, gofynnwyd i’n cynghorwyr bleidleisio ar faterion nad oeddent yn gwbl ymwybodol ohonynt. Daeth yn amlwg bod angen ateb llawer o gwestiynau.
Gyda chymorth ymgynghorydd cynllunio annibynnol, bu i ni ofyn am adroddiad, a’i dderbyn, lle'r oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn ymddangos yn rhywbeth y dylid ei rannu gyda'n cynghorwyr ar y mater hwn.
Mae rhannau o'r ddogfen hon yn cynnwys Adran 56 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref sy'n rhagnodi gweithgareddau sy'n gyfystyr â chydymffurfiaeth y cyfeirir ati fel gwaith perthnasol a ddiffinnir fel unrhyw waith adeiladu yn ystod gwaith codi adeilad; dymchwel adeilad; cloddio ffos sydd i gynnwys sylfaen neu ran o sylfeini adeilad; gosod unrhyw brif bibell neu bibell dan y ddaear i sylfeini adeilad, neu ran o sylfeini adeilad; unrhyw waith yng nghwrs gosod allan neu adeiladu ffordd neu ran ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7