Mater - cyfarfodydd

Draft Final Accounts 2022/23 and use of Balances and Reserves

Cyfarfod: 18/07/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Cyfrifon Terfynol Drafft 2022/23 a Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 349 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2022/23. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon llawn drafft ar gyfer 2022/23 yn https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Datganiad-or-cyfrifon.aspx

·      Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol, sef £13.967m, a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig newydd a nodir yn Nhabl 3, a ddaw i gyfanswm o £4.320m.

·      Cymeradwyo’r balans o £19.638m fel cyfanswm y cronfeydd wrth gefn clustnodedig ar gyfer 2022/23 (£23.18m yn 2021/22). Mae hyn £3.544m yn is na 2021/22, ac mae’n cynnwys £4.320m o gronfeydd wrth gefn newydd, fel yr argymhellir uchod, a gostyngiad cyffredinol o £7.471m yn y cronfeydd wrth gefn presennol, er bod hyn yn cynnwys symiau sydd wedi cynyddu a gostwng yn y cronfeydd wrth gefn presennol.

·      Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion, sef £6.716m.

·      Nodi balans y CRT o £12.107m.

·      Cymeradwyo’r Gronfa Wrth Gefn Grantiau Cyfalaf Heb eu Cymhwyso newydd gyda balans o £0.407m fel y nodir yn y Datganiad Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn yn Atodiad 4.

·      Cymeradwyo trosglwyddo £1.365m o’r cronfeydd wrth gefn gwasanaethau yn ôl i’r gronfa wrth gefn gyffredinol er mwyn cynyddu hyblygrwydd a gwydnwch ariannol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2022/23 a'r Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2023 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth fanylach am falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd a glustnodwyd gan gynnwys y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau yn 2023/24 a'r blynyddoedd dilynol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid. Ynddo amlinellir lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd, ym marn broffesiynol Swyddog Adran 151 y Cyngor, yn lefel sy'n ofynnol i dalu am unrhyw risgiau ariannol sy'n wynebu'r Cyngor, i fodloni'r ymrwymiadau cyllido presennol a wneir gan ystyried unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnyddio cyllid. Gall lefel y risg a wynebir gan y Cyngor newid a bydd lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu dros y misoedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at yr anawsterau ariannol y mae rhai cynghorau yng Nghymru yn eu hwynebu bellach a phwysleisiodd fod y Cyngor, oherwydd ei fod wedi bod yn ddarbodus yn y ffordd y mae wedi rheoli ei gyllid, mewn sefyllfa well yn ariannol. Er bod y Cyngor fel llawer o rai eraill yn dal i wynebu heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf gyda'r ansicrwydd ynghylch setliad ariannol 2024/25 yn un o’r heriau hynny, bydd y cronfeydd wrth gefn a grëwyd yn rhoi sicrwydd yn erbyn yr heriau a'r risgiau y mae’n debygol o’u hwynebu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y datganiadau ariannol drafft ar gyfer 2022/23 wedi'u llofnodi gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor ar 30 Mehefin 2023, a bydd y gwaith o archwilio’r cyfrifon yn dechrau ym mis Awst 2023. Y bwriad yw cwblhau’r gwaith dros yr haf a chymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig terfynol erbyn 30 Tachwedd 2023. Mae'r datganiadau yn ddogfennau technegol a chymhleth ac maent yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft (CIES yn Atodiad 2 yr adroddiad) sy'n dangos cost darparu gwasanaethau yn 2022/23 yn unol â gofynion cyfrifo statudol ac mae'n cynnwys Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r CIES yn cynnwys costau cyfrifo statudol fel dibrisiant ac addasiadau ar gyfer pensiwn, na chodir amdanynt yn erbyn y Dreth Gyngor ac, felly, maent yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar y sefyllfa derfynol mewn perthynas â balansau cyffredinol, cronfeydd wrth gefn clustnodedig, balans cyfrif y CRT a balansau ysgolion. Mae'r CIES yn dangos mai cost net gwasanaethau oedd £179.599m gyda diffyg o £16.237m ar ddarparu gwasanaethau. Pan wneir addasiadau ar gyfer ailbrisio asedau ac ar gyfer ail-fesur rhwymedigaethau pensiwn, y gwarged net terfynol ar gyfer y flwyddyn yw £132.79m. Yna gwneir addasiadau fel y dangosir yn Nhabl 1 yr adroddiad i benderfynu ar y symudiadau i gronfeydd wrth gefn a balansau gan nodi na ddylai'r ffigwr o £3.258m yn y tabl ymddangos mewn cromfachau gan ei fod yn cynrychioli cyfraniad o gronfeydd wrth gefn a balansau y gellir eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5